Dr Rowan Williams

Dr Rowan Williams © Matthew Horwood Photography

Bydd Dr Rowan Williams, cyn Archesgob Caergaint, ac un o'r meddylwyr cyhoeddus mwyaf uchel eu parch yn y DU, yn cyflwyno Darlith Goffa Hawliau Dynol Illtyd David ym Mhrifysgol Abertawe eleni.

Mae'r digwyddiad am ddim hwn yn agored i bawb a bydd yn cael ei gynnal nos Iau 9 Hydref 2025, yn Narlithfa Richard Price, Campws Singleton am 5pm.

Mae'r ddarlith hon yn anrhydeddu gwaddol Dr Illtyd David (1894-1982), arloeswr addysg oedolion ac eiriolwr cynnar dros yr hyn a elwir bellach yn Hawliau Dynol. Wedi'i ysbrydoli gan ei brofiadau yn yr Unol Daleithiau ganrif yn ôl, gwnaeth Dr David ymroi dros chwech degawd i addysg oedolion a gwasanaeth cyhoeddus yn ne-orllewin Cymru, gan lunio trafodaethau blaengar ar gyfiawnder, cydraddoldeb a chydweithrediad rhyngwladol.

Bydd y noson yn dechrau â chyflwyniad gan yr Athro Edward David, a fydd yn esbonio arwyddocâd taith Illtyd David o UDA ym 1925. Yn UDA, gwnaeth Illtyd David ddarganfod cyd-eiriolwyr dros hawliau gweithwyr ac addysg gweithwyr benywaidd. Gwnaeth gyfarfod â rhai o'r prif ymgyrchwyr dros hawliau sifil yn y cyfnod, gan gynnwys arweinydd carismataidd y NAACP, William Du Bois, a mynychodd Gynulliad NAACP yn Denver, dinas a oedd dan reolaeth y Ku Klux Klan. Yn ddiweddarach, dylanwadodd y profiadau hyn ar ei ymchwil a'i addysgu gan ysbrydoli gwaddol o ddarlithoedd Hawliau Dynol dros gyfnod o 40 mlynedd ym Mhrifysgol Abertawe.

Bydd derbyniad diodydd i ddilyn, cyn y brif ddarlith.

Bydd darlith Dr Rowan Williams, sydd â’r teitl 'Human Rights and Human Solidarity', yn archwilio tensiynau a chyfyngiadau iaith hawliau yn y byd heddiw. Bydd Dr Williams yn gofyn a yw'r cysyniad o hawliau weithiau'n tynnu sylw wrth y cysylltiadau moesol a chymdeithasol dyfnach sy'n dal cymunedau ynghyd. Bydd ei ddarlith yn herio cynulleidfaoedd i fyfyrio ar seiliau urddas ddynol a'r cyfrifoldebau sy'n sail i gymdeithas gyfiawn. Bydd sesiwn holi ac ateb yn dilyn, gan gynnig cyfle i fynychwyr gyfathrebu'n uniongyrchol â Dr Williams.

I nodi'r canmlwyddiant hwn, bydd hefyd arddangosfa ar-lein â’r teitl 'From Singleton to USA 9125 - Making of a Human Rights legacy'. 

Yn ystod y flwyddyn academaidd i ddod, bydd digwyddiadau cyhoeddus ychwanegol yn archwilio heriau hawliau dynol cyfoes, gan adlewyrchu ymrwymiad parhaus Prifysgol Abertawe i gyfiawnder cymdeithasol, addysg ac ymgysylltu â'r cyhoedd.

Does dim lle ar ôl ar gyfer y digwyddiad hwn. 

Rhannu'r stori