Cynrychiolwyr o Brifysgolion Abertawe a Trent gyda myfyrwyr sy'n astudio gradd ddeuol.
Mae'r rhaglen gradd ddeuol gyntaf sy'n rhoi’r cyfle i fyfyrwyr astudio yn Abertawe ac yng Nghanada yn nodi ei 10fed pen-blwydd, ac mae'n deillio o bartneriaeth sydd wedi para bron deugain mlynedd rhwng Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Trent yn Ontario.
Mae Gradd Ddeuol y Gyfraith Trent/Abertawe, a gynigir ar y cyd gan Brifysgol Trent yn Peterborough, Ontario a Phrifysgol Abertawe, yn nodi 10 mlynedd ers ei lansio fel y rhaglen gyntaf o'i bath rhwng y sefydliadau.
Mae'r rhaglen gradd ddeuol hon yn rhoi cyfle i fyfyrwyr astudio yn Abertawe ac yn Trent ac ennill dwy radd mewn chwe blynedd.
Mae Prifysgol Trent yn Peterborough yn un o brifysgolion israddedig gorau Canada. Fe'i sefydlwyd ym 1964 ac mae ganddi bron 14,000 o fyfyrwyr heddiw ac mae'n cynnig tua chant o raglenni gradd ar draws ei dau gampws; Campws Symons yn Peterborough a'r Campws llai, Durham yn Oshawa.
Mae'r Brifysgol wedi'i rhestru yn y 4ydd safle yn nhabl cynghrair prifysgolion israddedig Canada ac mae ganddi gyfradd cyflogaeth graddedigion o 95%.
Mae'r rhaglen gradd ddeuol a gynigir gan Abertawe a Trent hefyd ar agor i fyfyrwyr mewn peirianneg gemegol a’r gwyddorau meddygol, graddau sydd wedi adeiladu ar lwyddiant llwybr y gyfraith. Mae myfyrwyr yn treulio dwy flynedd gyntaf eu gradd ym Mhrifysgol Trent cyn trosglwyddo i Abertawe am naill ai dwy neu dair blynedd, gan ddibynnu ar y pwnc y maen nhw'n ei astudio.
Nid oes angen i fyfyrwyr gyflwyno ceisiadau ychwanegol na sefyll arholiadau mynediad, ac mae ganddynt lety gwarantedig ar gyfer eu blwyddyn gyntaf yn Trent a'u blwyddyn gyntaf yn Abertawe.
Mae'r holl fyfyrwyr yn graddio â dwy radd annibynnol, un o bob sefydliad, yn ogystal â chael y cyfle i ehangu eu gorwelion yn sylweddol drwy'r profiad o fyw ac astudio mewn gwlad arall.
Dros y degawd diwethaf, mae 127 o fyfyrwyr gradd ddeuol Trent wedi astudio yn Abertawe, yn ogystal â 67 eleni.
Yn adran y Gyfraith, mae myfyrwyr sy'n astudio graddau deuol yn aml ymhlith y graddedigion o Abertawe sy'n perfformio orau bob blwyddyn. Mae'r myfyriwr a gafodd y graddau gorau yn 2025, Maggie Jessop, wedi cael ei henwebu ar gyfer gwobr Cymru gyfan. Mae myfyrwyr sy'n astudio graddau deuol yn y gyfraith hefyd yn cyfrannu'n sylweddol at lwyddiant Abertawe mewn cystadlaethau ffug lys barn, cystadlaethau dadlau a chystadlaethau cleientiaid rhyngwladol.
Mae'r fformat gradd ddeuol wedi deillio o bartneriaeth gyfnewid lwyddiannus iawn rhwng Abertawe a Trent, sydd wedi bodoli ers 1988. Ers hynny, mae Abertawe wedi anfon 48 o fyfyrwyr i Trent fel rhan o bartneriaeth gyfnewid, ac wedi croesawu 49 o fyfyrwyr o Trent.
Hefyd ceir cysylltiadau agos rhwng y ddwy brifysgol ar lefel uwch. Ymwelodd Llywydd Trent ac uwch-gydweithwyr eraill ag Abertawe yn ddiweddar, gan gyfarfod â'r Is-ganghellor, Dirprwy Is-gangellorion a chynrychiolwyr o gyfadrannau a gwasanaethau proffesiynol.
Mae'r bartneriaeth hefyd yn parhau i arwain at ffurfiau newydd ar gydweithredu, gan greu mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr. Un enghraifft yw rhaglen newydd ym maes Troseddeg Ryngwladol Gymharol sy'n dechrau yr hydref hwn. Bydd y cwrs, a addysgir ar-lein rhwng y ddau gampws, yn cynnwys myfyrwyr o Trent ac Abertawe yn cydweithio i rannu eu gwybodaeth am gyfiawnder troseddol yn eu gwledydd nhw a dysgu gan eu cyd-fyfyrwyr.
Dywedodd Elenor Marano, a raddiodd yn y Gyfraith yn 2025 ac sydd nawr yn dechrau ar ei gyrfa gyfreithiol yng Nghanada: "Mae Trent a Phrifysgol Abertawe yn debyg iawn o ran cyfleoedd, gofal a phrofiad. Roedd yr amgylcheddau dysgu yn cynnig mwy na damcaniaeth yn unig, roedden nhw'n fy annog i bontio fy nysgu drwy gymhwysiad ymarferol mewn amgylchedd cefnogol. Doedd y Gyfadran ddim wedi gwneud i mi deimlo mai rhif oeddwn i, ond yn hytrach roedden nhw'n barod iawn i glywed am fy niddordebau, yr heriau roeddwn i'n eu hwynebu, a'r syniadau oedd gennyf.
Yn ogystal â’m paratoi ar gyfer gyrfa, gwnaeth y cyfleoedd, y gymuned a'r gofal a dderbyniais yn y ddwy Brifysgol fy helpu i ddatblygu'n berson mwy hyderus, tosturiol ac ymrwymedig".
Dywedodd Evan Roitz, a raddiodd o’r rhaglen Gradd Ddeuol mewn Peirianneg Gemegol yn 2025: "Dewisais i raglen gradd ddeuol Trent-Abertawe oherwydd bod gen i ddiddordeb mewn peirianneg a chymwysiadau diwydiannol cemeg, ac roedd astudio ym Mhrifysgol Abertawe yn brofiad bythgofiadwy. Oherwydd fy mod wedi mwynhau fy amser yn Abertawe gymaint, dewisais i aros am flwyddyn arall, ac rydw i newydd raddio â gradd MEng dosbarth cyntaf mewn Peirianneg Gemegol. Rydw i nawr yn gweithio i gwmni BWXT Nuclear Energy Canada yn Peterborough, Ontario, fel Cynorthwy-ydd Peirianneg Sicrhau Ansawdd".
Meddai Dr Mark Skinner, Profost ac Is-lywydd Academaidd ym Mhrifysgol Trent: “Mae llwyddiant y bartneriaeth hon yn dyst i brofiadau myfyrwyr yn Trent ac Abertawe ac yn adlewyrchu dymuniadau myfyrwyr i gael llwybrau dysgu unigryw a di-dor i raddau proffesiynol. Mae pob un o raglenni gradd ddeuol Trent-Abertawe yn cynnig strwythur i'r rhai hynny sydd â nod gyrfa penodol, ond hefyd hyblygrwydd ac amrywiaeth i ysbrydoli eu dysgu. Mae rhaglen y gyfraith, yn benodol, yn rhoi cyfle i fyfyrwyr addasu eu llwybr trwy ddewis o amrywiaeth o brif bynciau yn Trent i baru â'u gradd yn y gyfraith. Mae'r ddau sefydliad eisiau gweld myfyrwyr wedi’u cefnogi a’u hysbrydoli a fydd yn ffynnu yn eu gyrfaoedd, ac mae’n gweithio drwy’r rhaglenni hyn.”
Meddai'r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “Mae Prifysgol Trent yn un o'n partneriaid rhyngwladol allweddol ac rydym yn falch o fod wedi datblygu nifer o raglenni gradd arloesol sy'n cynnig cyfle unigryw i fyfyrwyr astudio yng Nghanada ac yng Nghymru. Wrth i ni nodi degawd o'r rhaglenni trawsnewidiol hyn, rydym yn dathlu'r gymuned gynyddol o fyfyrwyr - dros 100 ohonynt erbyn hyn - sydd wedi elwa o'r profiad academaidd byd-eang hwn. Mae ein partneriaethau strategol rhyngwladol yn allweddol i weledigaeth Prifysgol Abertawe ar gyfer y dyfodol, ac edrychwn ymlaen at ddyfnhau ein cydweithrediad â Trent er mwyn creu hyd yn oed fwy o gyfleoedd i'n myfyrwyr a'n staff".