
Gall diwygio trwyddedu a rheoleiddio gael effaith sylweddol ar brosiectau adfer morol ac arfordirol, megis y rhai hynny sy'n cynnwys y morwellt yn Thorness, Ynys Wyth. Credyd y llun: Francesca Page.
Mae Prifysgol Abertawe wedi arwain tîm rhyngwladol o wyddonwyr ac ymarferwyr morol - gan gynnwys 18 gwlad - sy'n galw am newid brys i weithdrefnau trwyddedu a rheoleiddio prosiectau adfer morol ac arfordirol.
Mewn papur newydd a gyhoeddwyd yn Cell Reports Sustainability, maent yn dadlau bod systemau gor-gymhleth nad ydynt yn addas at y diben mwyach yn arafu gwaith adfer hanfodol ar adeg pan fo cefnforoedd yn wynebu dirywiad digynsail.
Mae ecosystemau'r môr, gan gynnwys riffiau cwrel, mangrofau, morwellt a morfeydd heli, yn diflannu ar gyflymderau arswydus. Mae mentrau byd-eang, megis Degawd Adfer Ecosystemau y Cenhedloedd Unedig a Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang Kunming-Montreal, wedi gosod targedau uchelgeisiol i adfer 30% o ecosystemau diraddiedig erbyn 2030. Fodd bynnag, mae'r awduron yn rhybuddio bod y gweithdrefnau trwyddedu presennol yn rhwystro cynnydd tuag at y nodau hyn.
Meddai'r prif awdur, yr Athro Cysylltiol Richard Unsworth o Brifysgol Abertawe, sydd hefyd yn helpu i arwain rhaglen MSc arloesol mewn Adfer a Chadwraeth Morol ac sydd hefyd yn Brif Swyddog Gwyddonol Project Seagrass: "Mae'r rheoliadau a gafodd eu llunio i warchod bywyd y môr yn aml yn rhwystro'r prosiectau sydd â'r nod o'i adfer. Mae angen systemau mwy clyfar a hyblyg arnon ni ar frys, rhai sy'n annog arloesi yn hytrach na'i rwystro."
Mae canfyddiadau allweddol yr astudiaeth yn cynnwys y canlynol:
- Mae adfer morol yn ei ddyddiau cynnar: Yn wahanol i adfer tir, mae'r wyddoniaeth yn datblygu o hyd ac mae methiannau'n gyffredin, ond mae'r methiannau hyn yn hanfodol ar gyfer dysgu.
- Mae rheoliadau'n ffrwyno cynnydd: Mae hawlenni yn aml yn araf, yn ddrud neu'n amhosib eu sicrhau, hyd yn oed ar gyfer prosiectau a fyddai o fudd amlwg i ecosystemau.
- Mae newid yn yr hinsawdd yn galw am feddylfryd newydd: Rhaid i ymdrechion adfer greu ecosystemau gwydn i'r dyfodol, yn hytrach nag ail-greu'r gorffennol yn unig.
- Mae tegwch yn bwysig: Rhaid cynnwys cymunedau brodorol a lleol i sicrhau bod prosiectau'n deg ac yn effeithiol.
Mae'r papur hefyd yn amlinellu chwe diwygiad i gyflymu gweithgarwch adfer.
- Mabwysiadu offer arloesol megis cymorth i fudo a dulliau genetig.
- Creu 'pyllau tywod arloesi' lle gellir profi ymagweddau newydd yn ddiogel.
- Sefydlu ardaloedd adfer dynodedig gan symleiddio prosesau cymeradwyo.
- Gwneud adrodd am lwyddiannau a methiannau'n orfodol.
- Sicrhau bod hawlenni'n cydweddu â graddfeydd amser ecolegol hirdymor.
- Dileu ffïoedd trwyddedu a chyflwyno cymhellion i adfer.
Mae'r awduron yn pwysleisio nad ydynt yn galw am ddadreoleiddio, ond am drwyddedu addasol, ar sail tystiolaeth, sy'n cefnogi arloesi a gwydnwch hirdymor. Heb ddiwygio, mae ymrwymiadau rhyngwladol i adfer ecosystemau morol, mewn perygl o fethu.
Meddai'r cyd-awdur, Dr Elizabeth Lacey o Project Seagrass: "Mae gennym gyfnod byr i wrthdroi dirywiad y cefnforoedd. Gallai trwyddedau mwy clyfar sbarduno adfer ar raddfa fawr ar y cyflymder sydd ei angen ar y blaned."
Darllenwch y papur llawn: “Rethinking Marine Restoration Permitting to Urgently Advance Efforts”.