Mae Cyfleuster Addysgu Arbenigol (STF) Ysgol Penyrheol wedi'i ymgorffori eco-ryfelwr yn ei gynllun gwaith Groeg Hynafol. Mae'n greadur chwedlonol y mae'r duwiau wedi'i ddewis i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Credyd: Ysgol Penyrheol, Cyfleuster Addysgu Arbenigol (STF).
Mae plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn cael eu gadael ar ôl ym maes addysg hinsawdd a chynaliadwyedd Cymru—er gwaethaf addewidion cenedlaethol i wneud dysgu amgylcheddol yn rhan o brofiad bob plentyn—yn ôl adroddiad newydd gan Brifysgol Abertawe a Chadwch Gymru'n Daclus.
Mae'r ymchwil yn dangos bod disgyblion mewn ysgolion arbennig a lleoliadau darpariaeth amgen yn aml yn colli cyfleoedd ystyrlon i ddysgu am yr hinsawdd.
Meddai Shannon O’Connor, cyd-awdur yr adroddiad a Chymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe: “Drwy amlygu lleisiau addysgwyr ADY, mae’r ymchwil hon yn paratoi’r ffordd ar gyfer cydweithio ar draws addysg a pholisi. Rhaid i addysg gynhwysol am yr hinsawdd fod yn hygyrch i bawb—dim ond wedyn y gallwn ni wir gefnogi dysgwyr i ddod yn 'ddinasyddion moesegol, gwybodus o Gymru a'r byd', un o'r pedwar diben a ddiffiniwyd yn y Cwricwlwm i Gymru (Llywodraeth Cymru, 2022).
Wedi'i ariannu drwy Bartneriaeth SMART rhwng Prifysgol Abertawe a rhaglen Eco-Ysgolion Cadwch Gymru'n Daclus, archwiliodd y tîm addysg hinsawdd ar draws lleoliadau ADY yn ne Cymru—o goridor yr M4 i Sir Benfro.
Wrth archwilio 26 o leoliadau, gan gynnwys ysgolion arbennig, cyfleusterau dysgu arbenigol, ac unedau cyfeirio disgyblion, datgelodd yr ymchwilwyr yr un heriau dro ar ôl tro:
- Diffyg adnoddau wedi'u teilwra
- Hyfforddiant cyfyngedig i staff
- Diffyg rhwydweithiau cymheiriaid i rannu syniadau
- Athrawon yn teimlo'n ynysig ac yn ddi-gefnogaeth
Mae'r rhwystrau hyn yn adlewyrchu problem genedlaethol a byd-eang ehangach: heb ddulliau cynhwysol, mae dysgwyr sydd ag ADY mewn perygl o gael eu gwthio i’r ymylon wrth lunio atebion hinsawdd.
Meddai Owen Derbyshire, Prif Weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus: “Os ydyn ni am gael dyfodol tecach a gwyrddach, mae angen i ni sicrhau bod pawb yn cael eu cynnwys yn y sgwrs, a sicrhau bod gan bob dysgwr yr offer sydd eu hangen arnynt i greu newid cadarnhaol.
“Nid yw dysgwyr sydd ag anghenion ychwanegol yn cael yr un mynediad at wybodaeth, profiadau na chefnogaeth, ac nid yw hynny’n ddigon da.”
Er gwaethaf yr heriau, mae'r adroddiad hefyd yn amlygu arferion addawol sydd eisoes ar y gweill. Mae dysgu yn yr awyr agored sy'n seiliedig ar y synhwyrau, mentrau Eco-Sgolion wedi'u haddasu, a phrosiectau creadigol—fel celf â thema’r hinsawdd a ffeiriau 'ail-law'—yn helpu i wneud addysg gynaliadwyedd yn fwy hygyrch.
Meddai Gemma Sayce, athrawes o Ysgol Hendrefelin, ysgol arbennig a gynhelir gan yr awdurdod lleol yng Nghastell-nedd Port Talbot:“ Mae cynnwys dysgwyr mewn addysg newid hinsawdd yn rhoi cyfle teg iddynt ddeall heriau mwyaf heddiw a meithrin ymrwymiad gydol oes i amddiffyn ein planed. Mae cynnwys hyn ym mhob Maes Dysgu yn eu grymuso i wneud dewisiadau gwybodus a chyfrifol ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy.”
Meddai James, disgybl o’r un ysgol: “Roeddwn i’n hoffi dysgu am newid hinsawdd a’n planed. Nawr rwy'n gwybod mwy o ffyrdd o atal llygredd—ac rwyf am achub y moroedd.”
I gau'r bwlch presennol, mae'r adroddiad yn argymell:
- Cyd-greu adnoddau hinsawdd gydag addysgwyr a dysgwyr ADY
- Cynnig hyfforddiant arbenigol fel bod staff yn teimlo'n hyderus ac yn cael eu cefnogi
- Diweddaru polisïau i gynnwys ADY a darpariaeth amgen yn strategaeth addysg hinsawdd Cymru
Mae'r ymchwilwyr yn gobeithio y bydd y canfyddiadau hyn yn ysbrydoli newid yn y ffordd y mae addysg hinsawdd yn cael ei chyflwyno—fel y gall pob person ifanc yng Nghymru ddysgu am ddyfodol mwy cynaliadwy, ymgysylltu ag ef a helpu i'w lunio.
Darllenwch yr adroddiad yn llawn: “Addysg newid hinsawdd a chynaliadwyedd mewn lleoliadau anghenion dysgu ychwanegol a darpariaeth amgen”.