Mae'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol wedi penodi Amira Guirguis o Brifysgol Abertawe yn Brif Wyddonydd newydd iddi.
Mae'r Athro Guirguis, sy'n fferyllydd medrus, yn rhagnodydd annibynnol ac yn arbenigwr a gydnabyddir yn rhyngwladol mewn camddefnyddio sylweddau, diogelwch meddyginiaethau, a gwyddoniaeth fferyllol, yn dod â chyfoeth o brofiad i'r rôl uchel ei bri. Bydd hi'n arwain cenhadaeth y Gymdeithas i sicrhau bod gwyddoniaeth yn parhau i fod wrth wraidd fferylliaeth, gan lunio ymarfer, polisi ac arloesi i wella gofal cleifion ac iechyd y cyhoedd.
Mae gan yr Athro Guirguis PhD mewn canfod Sylweddau Seicoweithredol Newydd (NPS) ac mae hi wedi cyfrannu'n sylweddol at bolisi cyffuriau, diogelwch cleifion ac addysg fferylliaeth. Mae ei hymchwil arloesol wedi ennill cydnabyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys Gwobr JPAG Geoffrey Phillips 2014. Bu’n Brif Ymchwilydd hefyd ar gyfer gwasanaeth gwirio cyffuriau cyntaf y DU dan arweiniad fferyllwyr, wedi'i drwyddedu gan y Swyddfa Gartref.
Yn 2020, gwnaeth y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol ei henwi fel "menyw i gadw llygad arni" am ei harweinyddiaeth a'i heffaith wrth hyrwyddo fferylliaeth. Ym Mhrifysgol Abertawe, mae hi'n gwasanaethu fel Cyfarwyddwr y Rhaglen MPharm ac yn Ddirprwy Is-Ganghellor Cynorthwyol, sy'n dangos ei hymrwymiad i hyrwyddo addysg, gwyddoniaeth ac arweinyddiaeth gynhwysol ym maes iechyd a gwyddorau bywyd.
Mae'r penodiad yn anrhydedd yn ôl yr Athro Guirguis: Meddai: "Fel fferyllydd, gwyddonydd ac addysgwr, rwy'n ymrwymedig i weithio gydag aelodau'r Gymdeithas a rhanddeiliaid i atgyfnerthu rôl gwyddoniaeth fel sylfaen ein proffesiwn. Rwy'n edrych ymlaen at gefnogi arloesedd, ymchwil ac ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth a fydd yn gwella diogelwch cleifion ac yn darparu gwell canlyniadau iechyd i gymdeithas."
Meddai'r Athro Charlotte Rees, Dirprwy Is-Ganghellor a Deon Gweithredol y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd ym Mhrifysgol Abertawe: "Rydym yn hynod falch o benodiad yr Athro Guirguis. Mae hyn yn dyst i'w chyflawniadau rhagorol mewn ymchwil, addysg a pholisi fferylliaeth, ac i'w harweinyddiaeth ar faterion o bwysigrwydd cenedlaethol fel camddefnyddio sylweddau a diogelwch cleifion.
"Mae penodiad Amira yn tynnu rhagor o sylw at enw da cynyddol Prifysgol Abertawe am ymchwil ac addysgu sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang yn y gwyddorau iechyd. Heb os, bydd ei harweinyddiaeth yn cael effaith drawsnewidiol ar y proffesiwn ac yn ysbrydoli ein myfyrwyr a'n cydweithwyr fel ei gilydd."
Rhagor o wybodaeth am astudio Fferylliaeth yn Abertawe