Collage yn cynnwys y murluniau newydd.

Gobaith, lliw, a chreadigrwydd: Mae plant lleol wedi helpu ail-lunio Port Talbot gyda murluniau newydd bywiog o dan yr M4.

Mae tri murlun newydd bywiog bellach yn bywiogi Stryd Ynys ym Mhort Talbot, gan gyfleu gorffennol, presennol a dyfodol dychmygol y dref — drwy lygaid dros 200 o blant lleol.

Mae'r gwaith celf, mewn man o dan yr M4, yn rhan o The Steeltown Storybook: Children's Chapter, prosiect allgymorth creadigol dan arweiniad Dr Michaela James, Emily Adams a Jack Palmer o Brifysgol Abertawe.

Wedi'i ysgogi gan drawsnewidiad diwydiannol Port Talbot, gwahoddodd Steeltown Storybook ddisgyblion ysgolion cynradd lleol rhwng 7 ac 11 oed i gymryd rhan mewn gweithdai sy'n archwilio hanes y dref, ei hunaniaeth bresennol, a'u gobeithion ar gyfer y dyfodol.

Roedd y gweithgareddau yn amrywio o fowldio clai i bodlediad a Photovoice - dull adrodd straeon gan ddefnyddio ffotograffiaeth - oll wedi'u cynllunio i alluogi pobl ifanc i fyfyrio ar eu tref a'u perthynas â'r gymuned leol.

Roedd ymatebion y plant yn llawn dychymyg a gobaith ac wedi'u gwreiddio mewn balchder o le, gan gynnwys Traeth Aberafan a'r bandstand ym Mharc Coffa Taibach.

O freuddwydion am geir sy'n hedfan ac amgueddfeydd dur i DJs sy'n estroniaid yn creu trac sain y dyfodol, mae eu gweledigaethau yn herio naratifau dirywiad ac yn hytrach yn cynnig byd o bosibilrwydd.

Gwnaeth un plentyn ddychmygu Port Talbot fwy disglair a lliwgar: "Hoffem i'r dref fod yn fwy bywiog a lliwgar gyda phaentio o dan bontydd a mwy o brosiectau graffiti, rydym yn gobeithio y bydd gwyddonwyr yn darganfod lliwiau newydd."

Mae THEW CREW — casgliad o artistiaid lleol - wedi chwarae rhan hanfodol wrth drawsnewid y syniadau hyn yn dri murlun trawiadol.

Meddai Ryan Lee Davies a Matthew Cole o THEW CREW: "Fel bechgyn lleol sydd wedi ein magu yn y gymuned, rydyn ni'n ddiolchgar ein bod wedi cael y cyfle i gymryd syniadau'r plant a'u troi'n ddarn o gelf sy'n cynrychioli gorffennol, presennol a dyfodol ein tref.

"Fe wnaethon ni geisio llunio'r murluniau drwy lygaid y plant – yn neis, yn lliwgar ac yn hapus, ac rydyn ni'n gobeithio y bydd pawb yn eu mwynhau."

Wedi'i ariannu gan Gyfrif Cyflymu Effaith Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC) , mae'r prosiect wedi galluogi'r Brifysgol i ddod ag ysgolion, artistiaid a thimau cymunedol ynghyd—gan gynnwys Raspberry Creatives, Partneriaeth Meddwl am Deuluoedd, a Chyngor Castell-nedd Port Talbot—i greu rhywbeth sy'n adlewyrchu lleisiau pawb sy'n cymryd rhan.

Meddai Emily Adams, Ymgeisydd PhD Hanes sy'n rhan o'r Swyddfa Ymchwil i Heriau Lleol (LCRO): "Drwy ganoli lleisiau pobl ifanc, mae'r prosiect hwn wedi herio naratifau dominyddol am Bort Talbot. Byddai penawdau a sbardunwyd gan y trawsnewidiad diwydiannol parhaus yn awgrymu tref heb obaith ar gyfer y dyfodol, ond mae dros 200 o blant lleol wedi dangos yn greadigol nad dyma eu realiti nhw."

Meddai Dr Michaela James, Swyddog Ymchwil Iechyd a Lles Plant: "Mae'r Cenhedloedd Unedig am i bob plentyn a pherson ifanc gael llais ar faterion sy'n effeithio arnynt. Rwy'n credu bod y prosiect hwn yn enghraifft wych o'r hyn y gallwn ei ddysgu wrth wrando ar y lleisiau hyn."

Meddai Jack Palmer, Swyddog Cydgynhyrchu yn HDRUK Cymru (Ymchwil Data Iechyd y DU): "Mae'r prosiect hwn wedi bod yn enghraifft wych o ddinasyddiaeth ac eiriolaeth ymhlith pobl ifanc ym Mhort Talbot. Mae eu balchder a'u hangerdd am eu cartref yn ysbrydoledig, ac rwy'n gobeithio y bydd y rhai hynny sy'n gwneud penderfyniadau’n caru eu hawgrymiadau meddylgar."

Yn ddiweddar, mae'r tîm wedi sicrhau rhagor o gyllid gan Gyfrif Cyflymu Effaith yr AHRC i roi llwyfan i obeithion plant lleol ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys ffyrdd o leihau llygredd, bywiogi mannau cyhoeddus ac agor mwy o glybiau ieuenctid.

Yn ogystal ag ymweld â'r murluniau’n bersonol, bydd y cyhoedd hefyd yn gallu cael golwg y tu ôl i'r llenni ar y gwaith a ysbrydolodd eu creu yn ystod Gŵyl Bod yn Ddynol eleni—Arddangosiad Steeltown Schoolkids, 7–15 Tachwedd 2025 yn The Art Space ar Heol yr Orsaf.

Rhannu'r stori