Delwedd CGI o bobl y tu mewn i lyfrgell

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar gartref newydd Llyfrgell Glowyr De Cymru ac mae fideo yn datgelu'r cynnydd hyd yn hyn.

Bydd y Llyfrgell, sy'n dathlu treftadaeth ddiwydiannol, gymdeithasol a diwylliannol y rhanbarth, yn un o denantiaid Y Storfa Cyngor Abertawe yn Stryd Rhydychen y ddinas.

Mae fideo ymweliad rhithwir newydd gael ei ryddhau i roi cipolwg manwl cyntaf i bobl ar sut mae hen siop BHS yn cael ei thrawsnewid yn ganolfan gwasanaethau cymunedol a fydd yn gartref i gyfleusterau megis llyfrgell ganolog newydd.

Bydd hefyd yn gartref i wasanaethau eraill a ddarperir gan y Cyngor, megis y Ganolfan Gyswllt, Opsiynau Tai, Refeniw a Budd-daliadau, Dysgu Gydol Oes a Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg, yn ogystal â Gyrfaoedd Cymru a Cyngor ar Bopeth.

Mae'r fideo yn dangos tu allan trawiadol yr adeilad ac yn amlygu ei fannau mewnol croesawgar, gan gynnwys y brif dderbynfa, llyfrgell y plant, llyfrgell cynllun agored, y ganolfan gyswllt, ystafelloedd cyfarfod a gofod modern i gynadleddau a digwyddiadau. Mae'n rhoi cipolwg cyflym ar leoliad Llyfrgell Glowyr De Cymru ar y llawr cyntaf.

Meddai Siân Williams, Pennaeth Ymgysylltu a Churadu Casgliadau Diwylliannol Prifysgol Abertawe: "Rydyn ni wrth ein boddau y bydd Llyfrgell Glowyr De Cymru yn symud i'w chartref newydd yn Y Storfa, yng nghanol y ddinas. Rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr newydd yn ogystal â’r rhai sydd eisoes yn defnyddio ac yn mwynhau ein casgliad unigryw.”

Agorodd Llyfrgell Glowyr De Cymru ym mis Hydref 1973 ac mae'n gartref i gasgliad ymchwil unigryw o fri rhyngwladol o ddeunyddiau sy’n ymwneud â hanes diwydiannol, addysgol, cymdeithasol a gwleidyddol de Cymru.

Mae'n cynnwys llyfrgelloedd mwy na 60 o Sefydliadau’r Glowyr a neuaddau lles o bob rhan o'r maes glo, pamffledi, posteri, casgliad hanes llafar a'r casgliad mwyaf o faneri yng Nghymru.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd  Cyngor Abertawe: "Bydd y Storfa yn lle i bobl ddod ynghyd - i ddysgu, manteisio ar wasanaethau pwysig neu gymryd rhan mewn bywyd cymunedol, mewn lle modern a chroesawgar. Mae'r fideo newydd yn dangos beth gall pobl ei ddisgwyl."

"Mae angen i fwy o bobl ymweld â chanol dinas Abertawe i gefnogi'r masnachwyr sydd yno a helpu i ddenu siopau newydd a busnesau eraill yn y dyfodol. Dyna pam mae rhaglen adfywio gwerth £1bn ar y gweill. Y bwriad yw y bydd cynlluniau fel Y Storfa yn cyfuno â llawer eraill i ddenu rhagor o bobl yno."

Mae datblygiad Y Storfa yn agos at feysydd parcio, safleoedd bysiau a llwybrau beicio. Bydd dyddiad agor yn cael ei gyhoeddi yn yr wythnosau nesaf.

Rhannu'r stori