Olwyn roulette

Mae pobl sy'n cael diagnosis o anhwylder gamblo'n wynebu risg sylweddol uwch o farw oherwydd hunanladdiad, yn ôl ymchwil newydd a arweiniwyd gan Brifysgol Abertawe - gan nodi cam mawr ymlaen wrth ddeall niwed sy'n gysylltiedig â gamblo.

Cyhoeddwyd yr astudiaeth yn BJPsych Open, a dyma'r astudiaeth gyntaf yn y DU i ddefnyddio data a gesglir yn rheolaidd gan y GIG i nodi ffactorau a allai ragweld hunanladdiad ymhlith pobl a chanddynt broblemau gamblo. 

Gan ddefnyddio cofnodion gofal iechyd dienw o Gymru sy'n cwmpasu dros 30 o flynyddoedd (1993–2023) drwy Fanc Data SAIL, gwnaeth ymchwilwyr gymharu 92 o bobl a chanddynt ddiagnosis o anhwylder gamblo a fu farw oherwydd hunanladdiad â 2,990 o bobl a fu farw o ganlyniad i achosion eraill.  Gwnaethant archwilio cofnodion meddygon teulu, derbyniadau i'r ysbyty, apwyntiadau cleifion allanol a chofnodion marwolaeth.

Dywedodd y prif awdur, yr Athro Simon Dymond, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil, Addysg a Thriniaeth Gamblo (GREAT) ym Mhrifysgol Abertawe: "Mae bron hanner yr oedolion ledled y byd yn nodi eu bod wedi ymgymryd â gweithgarwch gamblo yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac mae niwed sy'n gysylltiedig â gamblo yn bryder iechyd byd-eang cynyddol. Ond tan nawr, ni fu astudiaeth a edrychodd ar y berthynas rhwng cael diagnosis o anhwylder gamblo a defnydd o wasanaethau iechyd meddwl yn ystod y misoedd cyn marwolaeth oherwydd hunanladdiad.

"Canfu ein hastudiaeth fod y rhai hynny a chanddynt ddiagnosis gamblo a fu farw oherwydd hunanladdiad wedi cael cysylltiad mwy diweddar â gwasanaethau iechyd meddwl ar y cyfan, a hynny yn enwedig drwy dderbyniadau i’r ysbyty yn hytrach nag apwyntiadau meddyg teulu arferol neu fel claf allanol, o'u cymharu â phobl heb ddiagnosis. Mae hyn yn awgrymu bod cyfleoedd posib ar gyfer ymyrraeth a chymorth cynharach yn cael eu colli. 

"Roedd diagnosis gamblo'n rhagfynegydd cryfach o ran hunanladdiad o'i gymharu â chyflyrau iechyd meddwl eraill megis iselder, sgitsoffrenia neu ddefnydd o alcohol - sy'n awgrymu bod anhwylder gamblo yn peri risg unigryw. Yn bwysig, mae cyfraddau ceisio cymorth ar gyfer gamblo'n isel yn gyson ac erbyn hyn mae pawb sydd angen help yn cael diagnosis, felly mae'r patrymau a welon ni yn yr astudiaeth yn debygol o danamcangyfrif graddfa'r niwed sy'n cael ei achosi gan gamblo a'i gysylltiad â hunanladdiad."

Mae'r tîm ymchwil, sy'n cynnwys cydweithwyr o Goleg y Brenin Llundain a Gambling Harm UK, yn gobeithio y bydd y canfyddiadau'n helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a llunwyr polisi i ddatblygu systemau gwell ar gyfer nodi'r rhai hynny sy'n wynebu risg a'u cefnogi.

Ychwanegodd yr Athro Dymond: "Mae ein canfyddiadau'n dangos y gellir nodi risg o hunanladdiad drwy gofnodion gofal iechyd cysylltiedig, gan greu cyfleoedd ar gyfer ymyrraeth gynharach. Gallai sgrinio a chofnodi gwell o ran niwed sy'n gysylltiedig â gamblo mewn lleoliadau iechyd meddwl, gan gynnwys cyfeirio priodol at ffynonellau cymorth y GIG, achub bywydau.”

Rhannu'r stori