Llun du a gwyn o ben ac ysgwyddau dyn ifanc

Llun: Archifau Richard Burton, Prifysgol Abertawe

Yn ystod blwyddyn ei ganmlwyddiant, bydd wyres Richard Burton yn Abertawe i roi persbectif personol unigryw ar yr actor byd-enwog yr wythnos nesaf.

Bydd Charlotte Frances Burton yn traddodi Darlith Flynyddol Richard Burton eleni yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin, Prifysgol Abertawe nos Fercher, 12 Tachwedd.

Mae'r digwyddiad am ddim yn rhan o gyfres flynyddol o ddigwyddiadau uchel eu bri a arweinir gan Ganolfan Richard Burton mewn cydweithrediad â'r Sefydliad Diwylliannol ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'n arbennig o arwyddocaol gan fod mis Tachwedd yn nodi canmlwyddiant ei enedigaeth.

Mae Charlotte Frances Burton yn actor, yn gyfarwyddwr ac yn awdur o Ddinas Efrog Newydd, a hi yw cynrychiolydd teuluol Richard Burton 100. Ar hyn o bryd mae hi'n byw ac yn astudio yng Nghaerdydd.

Yn y ddarlith, o'r enw How to Build a Richard Burton: Reflections of a 21st Century Granddaughter, bydd Charlotte yn myfyrio ar ei chanfyddiadau o waddol Richard Burton yn yr 21ain ganrif. Bydd hi'n trafod ei blentyndod, ei daith i enwogrwydd, a'i fywyd personol, ac yn ystyried sut mae ei stori wedi llunio persbectif wyres a anwyd ar ôl iddo farw.

Bydd mam Charlotte, Kate Burton, sy'n awdur o fri ac yn ferch Richard Burton, yn ymuno â Charlotte hefyd. Mae Kate yn adnabyddus iawn am ei phrif rolau ar y llwyfan a'r sgrîn, gan gynnwys Grey’s Anatomy, Scandal, Dumb Money, 127 Hours a Big Trouble in Little China yn ogystal â'i pherfformiadau clodwiw ar Broadway y West End a gyda Chwmni Brenhinol Shakespeare. 

Gyda'i gilydd, byddant yn cynnig safbwynt unigryw sy'n pontio'r cenedlaethau ar waddol barhaus Richard Burton.

Meddai Kate Burton: “Rydym wrth ein boddau bod Charlotte wedi cael ei dewis i draddodi'r ddarlith. Mae hi wedi gweithio'n ddiflino i gyflwyno gwaddol ei thad-cu i'r dirwedd bresennol a bydd hi'n parhau i weithio gydag Archifau Richard Burton yn ogystal â sefydliadau eraill yn y rhanbarth, ac yng ngweddill y DU, yn Efrog Newydd a Los Angeles, lle bu rhan helaeth o waith fy nhad. Mae Charlotte a minnau'n hapus iawn i gynrychioli'r teulu yn ystod dathliadau'r canmlwyddiant ac mae ei chyfranogiad yn hollbwysig i gyflwyno gwaddol fy nhad i'r 21ain ganrif.”

Meddai'r Athro Daniel Williams, Cyd-gyfarwyddwr Canolfan Richard Burton ar gyfer Astudio Cymru: “Mae'n anrhydedd croesawi Charlotte Burton i draddodi Darlith Richard Burton eleni. Pa ffordd well o ddathlu Canmlwyddiant Richard Burton nac yng nghwmni ei wyres a’i ferch, Kate Burton, wrth iddynt drafod etifeddiaeth a arwyddocâd un o feibion enwocaf Cymru i ni heddiw.”

Archebwch eich tocyn

Ceir rhagor o wybodaeth yma am Archifau Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe

 

Rhannu'r stori