Cludo pirarucu (Arapaima gigas) sydd wedi'i bysgota mewn modd cynaliadwy o lyn sydd wedi'i ddiogelu gan y cynllun cyd-reoli pysgodfeydd yn afon canol Juruá, Amazon Gorllewin Brasil. Llun: Marcos Amend
Mae ymchwil newydd wedi datgelu pa mor werthfawr mae gwybodaeth leol a chyfathrebu wrth ddiogelu'r pysgod dŵr croyw mwyaf yn y byd yng ngorllewin yr Amazon.
Roedd yr astudiaeth yn ystyried gwaith pysgotwyr lleol wrth ddylunio strategaethau diogelu ar gyfer y pirarucu, a sut y gellir cymhwyso'r strategaethau hyn ar gyfer systemau cymdeithasol-ecolegol eraill yn yr Amazon a thu hwnt, gan ddefnyddio modelu metaboblogaeth rhwydweithiau gofodol.
Mae Dr Miguel Lurgi, o Ysgol y Biowyddorau, Daearyddiaeth a Ffiseg yn rhan o'r cydweithrediad rhyngwladol o ymchwilwyr, ac mae eu canfyddiadau newydd gael eu cyhoeddi yn The Journal of Applied Ecology.
Ym masn afon canol Juruá yn Amazon Gorllewin Brasil, mae ffyrdd y trigolion lleol o ddiogelu ystumllynnoedd yn helpu i amddiffyn y pirarucu (Arapaima gigas) rhag difodiant, er budd bioamrywiaeth a lles y gymuned leol.
Pysgotwyr lleol profiadol sy'n dewis pa lynnoedd i'w diogelu, gan ddibynnu ar wybodaeth ecoloegol mentro a methu cenedliadol ynghylch deinameg tymhorol afonydd ac ymddygiad pysgod.
Caiff yr wybodaeth leol hon ei chyfuno â pholisïau rheoleiddiol sy'n diffinio cwotâu pysgota blynyddol ar gyfer llynnoedd mewn cynllun cyd-reoli, a'i nod yw sicrhau cynaliadwyedd ac atal pysgota anghyfreithlon.
Er bod dewisiadau lleol a rheoliadau llywodraethol wedi bod yn llwyddiannus, fe wnaeth yr ymchwilwyr helpu'r gymuned i ddarganfod ai eu barn nhw yw'r opsiwn gorau yn ogystal â chynorthwyo rheolwyr a llywodraethau i ehangu'r fenter hon ledled yr Amazon.
Wrth ystyried bod arbrofion empirig ar raddfa fawr yn heriol, yn enwedig mewn ardaloedd anghysbell megis yng nghanol yr Amazon, datblygodd y tîm chwech senario amgen ar gyfer cyd-reoli'r pysgota, yn seiliedig ar ddata a gasglwyd am boblogaeth y pirarucu rhwng 2011 a 2022 gan bysgotwyr lleol ar draws 13 llyn cymunedol sydd wedi'u diogelu ac 19 llyn nad ydynt wedi'u diogelu.
Adeiladon nhw rwydwaith gofodol lle mae'r 31 llyn a astudiwyd naill ai wedi cael eu cysylltu neu beidio, yn ddibynnol ar eu safleoedd daearyddol, statws diogelwch, ac ecoloeg pirarucu. Yna, defnyddiwyd y llinell sylfaen hon i ddatblygu model o'r boblogaeth sy'n cyfrif am nifer y pirarucu sy'n oedolion ym mhob llyn dros amser, faint gall y boblogaeth dyfu a faint o bysgod sydd ym mhob llyn (cymhwysedd cludo'r llyn). Roedd y senarios amgen yn cynnwys newid pa lynnoedd sydd wedi'u diogelu yn seiliedig ar sut mae llynnoedd yn gysylltiedig â'i gilydd, eu hardaloedd, eu safleoedd daearyddol, eu cymhwysedd cludo, neu’n syml heb feini prawf.
Gwnaeth yr awduron hefyd fodelu lefelau gwahanol o bysgota anghyfreithlon yn y llynnoedd nad ydynt yn cael eu diogelu, ac roedd y canlyniadau'n nodedig.
Er y gall strategaeth sydd wedi'i hysgogi gan fodel yn seiliedig ar gymhwysedd cludo'r llynnoedd ddarparu'r canlyniadau mwyaf effeithlon, datgelodd yr ymchwilwyr fod y cynllun cyd-reoli sydd ar waith bron yn perfformio cystal. Mae hyn yn amlygu pwysigrwydd a dibynadwyedd gwybodaeth leol pysgotwyr oherwydd gwnaeth llynnoedd a reolir gan y gymuned gynnal poblogaethau uchel o pirarucu gan ddarparu llochesau hollbwysig sy'n lleihau gor-ecsbloetio mewn lleoedd eraill.
Dywedodd yr ecolegydd cyfrifiadol Dr Lurgi: "Mae ein hastudiaeth yn cynrychioli cam arloesol at integreiddio gwybodaeth draddodiadol yn well gan bobl leol i ymagweddau ecolegol meintiol at reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
"Drwy integreiddio agweddau cymdeithasol ac ecolegol rheoli poblogaeth i rwydweithiau meintiol rhagfynegol yn llawn, bydd gennym gyfle gwell i ddarparu'r offer sydd eu hangen ar lunwyr polisi a chymunedau lleol i fynd i'r afael â'r heriau ar y rhyngwyneb rhwng cadwraeth a datblygu cynaliadwy."
Y tu hwnt i'r cipolwg ar ranbarth canol Juruá a'r Amazon, mae'r tîm yn dweud bod ei waith yn cynnig cynllun i integreiddio gwybodaeth leol a modelu ecolegol i wella cynaliadwyedd mewn ecosystemau cymhleth ledled y byd.
Dysgwch ragor am Ysgol y Biowyddorau, Daearyddiaeth a Ffiseg