Mae arbenigwyr wedi darganfod darlun unigryw o hanes - fila Rufeinig - a fydd, meddan nhw, yn cynnig gwybodaeth ddigynsail am stori genedlaethol Cymru.
ArchaeoMargam yw enw prosiect cydweithredol rhwng Canolfan Ymchwil a Hyfforddiant Treftadaeth (CHART) Prifysgol Abertawe, Cyngor Castell-nedd Port Talbot ac Eglwys Abaty Margam a chred yr archeolegwyr fod y darganfyddiad ym Margam o bwys sylweddol.
Wedi'i ariannu gan thema Treftadaeth, Diwylliant, Twristiaeth a Digwyddiadau Cyngor Castell-nedd Port Talbot o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, mae'r prosiect wedi dod â chymunedau, disgyblion, myfyrwyr, gwirfoddolwyr a busnesau bach a chanolig ynghyd o bob rhan o'r rhanbarth.
Yr uchelgais oedd taflu goleuni ar dreftadaeth gyn-ddiwydiannol Margam a llwyddodd y tîm pan ddatgelodd arolygon geoffisegol a gynhaliwyd gan Terradat o Landochau ôl troed fila Rufeinig ar raddfa ac mewn cyflwr cadwraeth nas gwelwyd o'r blaen yn y rhanbarth.
Meddai arweinydd y prosiect, Dr Alex Langlands, Athro Cysylltiol a Chyd-gyfarwyddwr CHART: "Dyma ddarganfyddiad anhygoel. Roedden ni bob amser yn meddwl bydden ni'n darganfod rhywbeth o'r cyfnod Brythonig-Rufeinig, ond wnaethon ni ddim erioed breuddwydio y byddai mor drawiadol gan gynnig cymaint o botensial o ran yr hyn mae'n gallu ei ddweud wrthyn ni am y mileniwm cyntaf yma yn ne Cymru nad oes gennym lawer o wybodaeth yn ei gylch.
"Mae Margam yn enwog am ei henebion sydd o bwys cenedlaethol ac am ddarparu tystiolaeth o dreftadaeth yr Oes Efydd, yr Oes Haearn, y cyfnod canoloesol a'r cyfnod ar ôl yr oesoedd canol. Ond doedden ni ddim yn gwybod braidd dim am fywyd yn y cyfnod Brythonig-Rufeinig. Dyma ddarn o'r jigso a oedd ar goll.
"Mae'n rhy gynnar i ddyfalu am ddyddiadau'r adeilad, ei nodweddion pensaernïol, pwy wnaeth ei adeiladu a sut daeth dyddiau ei ddefnyddio i ben. Ond o'r arolwg geoffisegol yn unig, gallwn ddechrau llunio damcaniaethau am bwysigrwydd posib y safle hwn a beth mae’n gallu ei ddweud wrthyn ni am rôl hirdymor Margam mewn datblygiadau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd yn ystod y mileniwm cyntaf yng Nghymru.
Meddai'r Cynghorydd Cen Phillips, Aelod o Gabinet Castell-nedd Port Talbot ar gyfer Natur, Twristiaeth a Lles: "Mae treftadaeth yn ased allweddol ar gyfer Castell-nedd Port Talbot ac mae'r darganfyddiad gwych hwn yn tanlinellu pam y gwnaethon ni fel Cyngor greu ein Cronfa Treftadaeth, Diwylliant, Twristiaeth a Digwyddiadau gan ddefnyddio arian o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Mae ein strategaeth Treftadaeth yn cydnabod ei phŵer i gysylltu ein cymunedau, dathlu ein hunaniaeth gyffredin ac ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol. Drwy werthfawrogi a diogelu'r dreftadaeth hon, rydym yn cryfhau balchder lleol, yn denu ymwelwyr ac yn creu cyfleoedd am ddysgu a thwf. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ddysgu rhagor o'r bennod heb ei hadrodd hon yn hanes hir Parc Margam."
Meddai'r Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Ymchwil ac Arloesi ym Mhrifysgol Abertawe: "Rydym wrth ein boddau bod ein partneriaeth hirsefydlog â Chyngor Castell-nedd Port Talbot yn cynnig manteision diwylliannol ymarferol i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
"Mae ArchaeoMargam yn tynhau ein cefnogaeth ar gyfer gwella sgiliau a chydlyniant cymdeithasol er mwyn lleoedd cryfach a mwy gwydn. Rydym yn falch iawn o weithio gyda phartneriaid cymunedol a rhoi llais ystyrlon iddynt yn y gwaith o gyd-greu'r ymchwil arloesol sy'n cael ei gwneud ym Mhrifysgol Abertawe."
Meddai Cyfarwyddwr Technegol Terradat, Christian Bird: "Aeth yr arolygon yn arbennig o dda, ac mae'r data magnetometreg a GDR yn hynod glir, gan nodi a mapio ar ffurf 3D adeiledd y fila, y ffosydd o'i chwmpas a chynllun ehangach y safle."
Mae'r fila yng nghanol clostir wedi'i amddiffyn tua 44m x 55m, efallai olion anheddiad wedi'i amddiffyn cynharach o'r Oes Haearn; neu efallai ei fod yn arwydd o ansefydlogrwydd yn nyddiau olaf y byd Brythonig-Rufeinig a'r angen i amddiffyn yn erbyn ymosodiad o'r tu allan, o'r dwyrain a'r gorllewin. Ceir adeilad sylweddol ag eiliau i'r de-ddwyrain hefyd, naill ai storfa amaethyddol fawr neu adeiledd sy'n gysylltiedig â hanes diweddarach y safle, neuadd gyfarfod o bosib i arweinwyr a'u dilynwyr ar ôl y cyfnod Rhufeinig.
Ychwanegodd Dr Langlands: "Un peth gallwn ei gasglu yw bod Margam, lle efallai a roddodd ei enw i ranbarth hanesyddol Morgannwg, yn un o'r canolfannau pŵer pwysicaf yng Nghymru. Oherwydd ei leoliad daearyddol roedd ar y ffin rhwng ucheldiroedd garw gorllewin Cymru a'r Fro ffrwythlon i'r dwyrain."
Mae ArchaeoMargam hefyd wedi cynnal cloddiadau archeolegol ar dir i'r gorllewin i Eglwys yr Abaty, gan gynnig dros 900 o brofiadau ar y safle i ddisgyblion ysgol lleol, Clwb yr Archeolegwyr Ifanc, gwirfoddolwyr a myfyrwyr o Grŵp Colegau Castell-nedd Port Talbot a Phrifysgol Abertawe.
Meddai Swyddog Addysg Cyngor Castell-nedd Port Talbot ac arweinydd Clwb yr Archeolegwyr Ifanc, Harriet Eaton: "Mae'r cyfle hwn wedi troi hanes yn antur go iawn i'n haelodau, gan eu galluogi i gael profiad ymarferol y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth a gwneud archeoleg yn brofiad ymarferol a difyr.
Ychwanegodd Beverley Gulley, un o wardeiniaid yr eglwys sydd wedi cefnogi Eglwys Abaty Margam ers amser maith: "Fel yr unig gorff Abaty Sistersaidd i oroesi'r Diddymiad, mae Eglwys Abaty Margam yn heneb o bwys unigryw i'r rhanbarth. Dyma dirwedd hynod ysbrydol ei naws ac un rydyn ni'n awyddus i ddarganfod mwy amdani mewn partneriaeth â phobl o bob rhan o'r rhanbarth."
Bydd darganfyddiadau prosiect ArchaeoMargam - gan gynnwys diweddariadau manwl am y fila Rufeinig - yn cael eu rhannu'n ehangach yn ystod diwrnod agored am ddim a gynhelir yn Eglwys Abaty Margam ddydd Sadwrn 17 Ionawr. Gallwch chi gadw'ch lle yma.
Dysgwch fwy am Yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu