Dau bysgodyn lliwgar yn sefyll ar fowlen yn edrych i gyfeiriadau gwrthwyneb

Mae diddordeb a sbardunwyd gan arfer annifyr parot copog anwes myfyriwr wedi arwain at astudiaeth arloesol o fastyrbio ymhlith adar, a fydd yn gwella dealltwriaeth o elfennau hollbwysig ymddygiad a lles adar nad ydynt wedi'u harchwilio'n ddigonol.

Nawr, ar ôl astudio ymddygiad 120 o rywogaethau ar draws 22 o brif grwpiau adar, mae tîm o fiolegwyr esblygiadol yn credu eu bod wedi dod o hyd i rai rhesymau pam mae adar yn mastyrbio.

Mae eu papur newydd gael ei gyhoeddi yn y cyfnodolyn Ecology and Evolution, ac mae’r prif ganfyddiadau'n cynnwys y ffaith bod adar ifanc ac adar llawn dwf yr un mor debygol o fastyrbio, ac mae'n fwy cyffredin ymhlith adar sydd â systemau paru mwy amlgymharus.

Dywedodd y cyd-awdur Dr Kevin Arbuckle o Adran y Biowyddorau Prifysgol Abertawe: "Er efallai ei fod yn ymddangos fel maes ymchwil dibwys, mae mastyrbio yn ddiddorol yn fiolegol oherwydd ei fod yn ffurfio pos Darwinaidd - nodwedd sy'n ymddangos fel pe bai'n lleihau ffitrwydd y creadur sy'n meddu arni.

"Pam gwnaeth mastyrbio esblygu pan fo’n gwastraffu egni, adnoddau ac amser y byddai’n well eu defnyddio i ddod o hyd i gymar? Mae'n faes nad yw wedi cael llawer o sylw mewn ymchwil wyddonol. Ein hastudiaeth yw'r un gyntaf o'i math sy'n canolbwyntio ar adar ac mae’n awgrymu atebion i'r cwestiwn hwn."

Mae'r ymchwilwyr yn dweud bod eu canlyniadau'n dangos efallai fod mastyrbio yn isgynnyrch nad yw'n ymaddasol o ysfa rywiol uchel mewn rhywogaethau sydd â mynediad at lawer o gymheiriaid. Ar y llaw arall, gall fod rhesymau ymaddasol megis cynyddu cynhyrfiad rhywiol ymhlith adar benywaidd er mwyn galluogi cyplu cyflymach wrth baru’n slei gyda adar gwrywaidd eraill heblaw am eu cymar cymdeithasol.

Mae'r data ar gyfer y papur wedi cael ei goladu dros y degawd diwethaf, ers i hoff arfer Billy, parot copog a gafodd ei achub gan gyd-awdur y papur, Dr Chloe Heys, ddal sylw'r gwyddonwyr pan oedden nhw'n fyfyrwyr ôl-raddedig.

Mae'r astudiaeth yn bwysig oherwydd ei bod yn cynnig dealltwriaeth newydd o agweddau hollbwysig ar ymddygiad adar, yn enwedig mewn perthynas â lles ac atgenhedlu.  Mae'r tîm yn gobeithio y bydd o ddiddordeb i gyd-ymchwilwyr, gwylwyr adar, perchnogion anifeiliaid anwes, a phobl sy'n arbenigo mewn adar.

Mae mastyrbio ymhlith adar dof - yn enwedig parotiaid neu barotiaid copog fel Billy - wedi'i drin ers amser hir fel ymddygiad annormal neu ymddygiad problematig a achosir gan amodau cymdeithasol sy'n achosi straen neu amodau eraill pan fo'r adar yn gaeth. O ganlyniad, nid yw'r arfer wedi cael ei annog, ac mae wedi cael ei gosbi neu mae ymyriadau milfeddygol wedi'u rhoi ar waith, gan gynnwys cyffuriau neu driniaethau llawfeddygol.

Ond gwnaeth yr astudiaeth ddangos bod adar dof yn llai tebygol o fastyrbio nag adar gwyllt, a bod yr ymddygiad yn fwy cyffredin ymhlith adar a fagwyd gan eu rhieni yn hytrach nag adar dof a fagwyd gan bobl. Mae hyn yn awgrymu'n gryf ei fod yn ymddygiad naturiol i lawer o rywogaethau.

Dywedodd Dr Arbuckle: "Yn ogystal â gwella dealltwriaeth fiolegol o nodwedd anarferol, mae ein canlyniadau'n awgrymu gwelliannau i les adar dof drwy ail-lunio sut rydyn ni'n ystyried ymddygiadau mastyrbio."

Gan fod yr arfer yn cael ei weld yn aml ymhlith adar benywaidd, mae'r ymchwilwyr yn dweud bod hyn yn taflu goleuni newydd ar ysfeydd rhywiol a chylchoedd atgenhedlu adar benywaidd a all fod yn ddefnyddiol ar gyfer rhaglenni bridio, yn enwedig yn achos rhywogaethau prin neu rywogaethau sydd mewn perygl.

Maen nhw'n gobeithio y bydd eu gwaith yn helpu i sbarduno ymchwiliadau pellach i ymddygiadau rhywiol anifeiliaid benywaidd, maes nad yw'n cael ei astudio'n ddigonol.

Ychwanegodd yr ymchwilwyr: "Gall ymddygiadau rhywiol nad ydynt yn rhai atgenhedlu ymhlith anifeiliaid amrywio'n fawr o ran cymhlethdod a phwrpas. Mae'r gallu i bennu a oes ganddynt bwrpas ymaddasol a sut maen nhw'n parhau ar draws amser esblygiadol yn hanfodol er mwyn gwella ein dealltwriaeth."

Roedd yr astudiaeth yn gydweithrediad rhwng Dr Arbuckle, Dr Heys o Brifysgol Caerhirfryn, Dr Matilda Brindle o Brifysgol Rhydychen, a Dr Tom Price o Brifysgol Lerpwl.

Darllenwch fwy am ein hymchwil arall yn y Biowyddorau

 

Rhannu'r stori