
Mae ailymuno â Horizon Ewrop yn newyddion gwych, yn ol Yr Athro Paul Boyle, Is-ganghellor:
“Mae ailymuno â Horizon Ewrop yn newyddion gwych y bydd ymchwilwyr a gwyddonwyr ym Mhrifysgol Abertawe a ledled Cymru wedi bod yn aros amdano.
Horizon yw'r cydweithrediad mwyaf rhwng ymchwil ac arloesi yn y byd, ac mae'n hanfodol bod gwyddonwyr ac ymchwilwyr o Gymru'n cael cyfranogi ynddo. Mae buddion cymdeithasol ac economaidd gwych i brifysgolion, busnesau a busnesau bach a chanolig yn deillio o gysylltu â'r gwaith y mae Horizon Ewrop yn ei alluogi.
Mae'r ymchwil gydweithredol y mae Horizon yn helpu i'w meithrin yn arbennig o bwysig. Bydd galluogi'r ymchwilwyr gorau ledled Ewrop i gydweithio'n creu'r canlyniadau gorau.”