- Rhif y Swydd
- SU00691
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £39,105 i £45,163 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 4 Maw 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 17 Maw 2025
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Louisa Huxtable-Thomas L.A.Huxtable-Thomas@swansea.ac.uk
- Emma Lydiard-Jenkins e.lydiard@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae'r Labordy'n cefnogi datblygu a phrofi meddalwedd mewn amrywiaeth o feysydd megis technoleg effaith gymdeithasol, technoleg gyfreithiol, a gwaith sy'n ymwneud â seiberfygythiadau. Bydd y prosiectau meddalwedd yn rhan allweddol o alluogi’r Labordy i ddarparu dulliau amrywiol o ddatrys problemau, gan wneud y gwaith yn hynod amrywiol ar y cyd ag ystod eang o bobl. Mae prosiectau presennol ac arfaethedig yn y Labordy yn seiliedig ar ymchwil, cynigion a gofynion academyddion, cyfreithwyr proffesiynol, cyrff anllywodraethol, elusennau a darparwyr eraill sy'n cydweithredu â'r Labordy.
Amcan y tîm datblygu meddalwedd yw darparu manylebau gofynion a phrototeipiau meddalwedd yn gyflym, gan brofi cysyniadau ar gyfer cynigion am brosiectau yn y dyfodol neu gynlluniau i'w datblygu.
Rydym yn chwilio am unigolyn entrepreneuraidd, sy'n medru rheoli ei waith ei hun a gwaith pobl eraill, yn ogystal â chefnogi'r broses datblygu meddalwedd, o lunio'r syniad hyd at fasnacheiddio. Y disgwyliad yw y bydd maint y tîm yn cynyddu o'r 2 ddatblygwr meddalwedd presennol sy'n gweithio yn Labordy Arloesi Cymru (ILW) sydd hefyd yn cynnwys cyfleusterau cyfrifadurol ac ystafelloedd cyfarfod. Yn gryno, dyma gyfle i unigolyn penderfynol ac arloesol i ddatblygu set newydd o wasanaethau a chyfleusterau o fewn portffolio'r Brifysgol.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.