Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00695
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£39,105 i £45,163 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
24 Chwef 2025
Dyddiad Cyfweliad
7 Maw 2025
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae hon yn swydd amser llawn, cyfnod penodol tan 01/09/2027

Mae ymchwil werthfawr wedi'i chynnal ar bolareiddiad cymdeithasol cyfredol, arfogi gwahaniaeth a gwrthgilio democrataidd. Mae archwiliadau i drin a thrafod dyddiol ynghylch amrywiaeth er mwyn creu amodau ar gyfer cyd-ddealltwriaeth a chydnabyddiaeth gymdeithasol yn llai cyffredin. Mae'r prosiect hwn, "Repairing sociality, safeguarding democracy: Transatlantic North-South narratives and practices of deep equality” (RSSD), yn ceisio mynd i'r afael â'r bwlch hwn. Mae RSSD yn brosiect ymchwil rhyngddisgyblaethol cymharol rhwng y Gogledd a'r De sydd, gan ddefnyddio cysyniad Lori Beaman o gydraddoldeb dwfn, yn canolbwyntio ar arferion dyddiol, neu annigwyddiadau, lle mae pobl yn mynd y tu hwnt i wleidyddiaeth a'r gyfraith er mwyn herio'r syniad o amrywiaeth fel problem a chanfod ffyrdd o fyw gyda'n gilydd yn dda, gan gydnabod tebygrwydd a chreu cymuned. Mae'r prosiect yn creu fframwaith cysyniadol sy'n ymgorffori epistemoleg y De a'r Gogledd er mwyn galluogi cyd-ddysgu ynghylch arferion amgen sy'n adfer cymdeithasoldeb er mwyn gweithio at ymddiriedaeth a chynhwysiad gwell, er gwaethaf diffyg hyder mewn cynrychiolaeth wleidyddol a'r system gyfreithiol o weinyddu cyfiawnder. Mae'r archwiliad hefyd yn ehangu i arferion digidol er mwyn deall sut mae cyfryngau digidol a chymdeithasol yn chwarae rôl mewn arferion o gydraddoldeb dwfn yn enwedig wrth archwilio gweithrediad, cymuned a chymdeithasoldeb mewn trafodaethau ar-lein sy'n gysylltiedig â phob cyd-destun lleol a thrwy astudiaeth achos ar wahân sy'n canolbwyntio ar actifiaeth ar gyfryngau cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig. Yn benodol, bydd y rôl hon yn cynnwys cydlynu a rheoli'r ymchwil ar gyfer astudiaeth achos ddigidol sy'n edrych ar brosesau o actifiaeth gymdeithasol fel rhan o brosiect Trawsiwerydd 3 blynedd o hyd a ariennir gan Gyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol UKRI sy'n archwilio arferion o gydraddoldeb dwfn wrth fynd i'r afael â naratifau eithafol. Yn ogystal â hyn, bydd y Swyddog Ymchwil yn cynnig cymorth i'r prifysgolion partner eraill sy'n rhan o'r prosiect drwy ddadansoddi lleoedd digidol perthnasol yn eu gwledydd a adnabyddwyd drwy eu hastudiaethau ethnograffic. Ochr yn ochr â hyn oll, bydd Swyddog Ymchwil y Deyrnas Unedig yn dylunio, yn creu ac yn rheoli gwefan y prosiect Trawsiwerydd ar ran yr holl wledydd / prosiectau sy'n rhan o'r prosiect.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho FHSS-Llyfryn yr Ymgeisydd(CY).pdf Lawrlwytho Disgrifiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr