Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00743
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£33,882 i £37,999 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
24 Chwef 2025
Dyddiad Cyfweliad
20 Maw 2025
Ymholiadau Anffurfiol
Martyn Quigley m.c.quigley@swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Dyma swydd am gyfnod penodol tan 31 Mawrth 2026, yn gweithio 17.5 awr yr wythnos.

Nod astudiaeth GamPIT yw datblygu a gwerthuso paradeim Trosglwyddo Cyfryngol Pavlovaidd (PIT). Bydd y rôl yn cynnwys dylunio, rhaglennu a gweithredu arbrofion ymddygiadol ar-lein ac mewn labordy.

Rydym yn chwilio am unigolyn disglair, hunangyfeiriedig ac uchel ei gymhelliant sydd â diddordeb mewn cael gyrfa mewn seicoleg glinigol neu arbrofol. Mae un swydd ran-amser (0.5 CALl) ar gael tan fis Mawrth 2026 (yn amodol ar gyllid, gellir estyn y CALl a/neu hyd y contract). Dylai deiliad y swydd feddu ar y gallu i raglennu arbrofion (e.e. gan ddefnyddio Gorilla), recriwtio cyfranogwyr ar-lein (e.e., Prolific) ac wyneb yn wyneb, coladu a dadansoddi data ymddygiadol a chyfrannu at ysgrifennu canfyddiadau. Mae profiad blaenorol o gynnal profion ar-lein ac wyneb yn wyneb ar ymchwil gamblo neu feysydd cysylltiedig a dangos profiad o weithio fel rhan o dîm cydweithredol a chynhyrchiol yn feini prawf dymunol.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Dylai ymgeiswyr hefyd atodi'r canlynol i'w cais:

  • Rhestr o gyhoeddiadau (os yw’n berthnasol)
  • Datganiad sy'n nodi eich profiad o raglennu, cynnal a dadansoddi arbrofion ymddygiadol.
Lawrlwytho Disgrifiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr