Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00751
Math o Gytundeb
Contract anghyfyngedig
Cyflog
£39,105 i £45,163 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
25 Chwef 2025
Interview Dates
17 Maw 2025 - 24 Maw 2025
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae'r rôl hon yn gyfle cyffrous i ymuno â thîm ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol mewn iechyd meddwl ac atal hunanladdiad sy'n rhan o DATAMIND, Hyb Data Iechyd Meddwl y DU a ariennir gan yr MRC (gweler yma) a Chanolfan Ymchwil i Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed Cymru. Mae'r grŵp ymchwil yn trawsnewid canlyniadau iechyd meddwl drwy ymchwil arloesol a datblygu polisi (darllenwch ein hastudiaeth achos effaith REF 2021 yma). Rydym yn chwilio am ddarlithydd iechyd meddwl a/neu epidemioleg atal hunanladdiad rhagorol i ddatblygu ymchwil sy'n torri tir newydd a chynnig cyfleoedd addysgu a hyfforddi yn y maes iechyd cyhoeddus pwysig hwn.

Cyfrifoldebau allweddol:

  • Arwain ymchwil ansoddol o safon ar atal hunanladdiad a hunan-niwed gan ddefnyddio adnoddau data ar raddfa fawr.
  • Cyhoeddi papurau o safon mewn cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid a sicrhau cyllid ymchwil cystadleuol.
  • Cyflwyno addysgu llawn ysbrydoliaeth a arweinir gan ymchwil mewn epidemioleg a gwyddor data iechyd, gan oruchwylio myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig.
  • Hyrwyddo cydweithio rhyngddisgyblaethol i drosi canfyddiadau ymchwil yn bolisi ac ymarfer.

Manteision allweddol:

  • Gweithio gyda thîm ffyniannus sy'n arwain effaith yn y byd go iawn, a gefnogir gan bortffolio ymchwil gwerth £10M, gan gynnwys prosiectau blaengar megis DATAMIND a'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl.
  • Mynediad at adnoddau o'r radd flaenaf, gan gynnwys Banc Data SAIL, un o'r systemau data mwyaf blaenllaw yn y byd.
  • Elwa o gyfleoedd mentora a datblygu unigryw, gyda llwybrau ar gyfer arweinyddiaeth ac effaith.
  • Ymunwch ag amgylchedd hyblyg sy'n gwerthfawrogi cydweithio a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, lle mae eich cyfraniadau'n cael eu gwerthfawrogi ond hefyd eu dathlu.
  • Wedi'i lleoli ar hyd arfordir godidog de Cymru, mae Abertawe'n cynnig cyfuniad unigryw o fforddiadwyedd, hygyrchedd a harddwch naturiol. Gyda chysylltiadau trafnidiaeth ardderchog, bywyd diwylliannol bywiog a chymuned groesawgar, mae Abertawe'n lleoliad gwych am dwf gyrfa a phersonol.

Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ymysg y 5 sefydliad gorau yn DU yn gyson am ragoriaeth ymchwil ers REF2014, gydag amgylchedd cydnabyddedig am feithrin diwylliant o ragoriaeth, cydweithio ac arloesedd.

Llwybr Gyrfa Academaidd

Mae'r swydd hon ar lwybr Addysg ac Ymchwil (Rmchwil). Dyluniwyd cynllun y Llwybrau Gyrfa Academaidd i sicrhau bod cryfderau academaidd, boed mewn ymchwil, addysgu, profiad ehangach y myfyrwyr, arweinyddiaeth, neu arloesi ac ymgysylltu, i gyd yn cael eu cydnabod, eu datblygu, eu gwerthfawrogi a'u gwobrwyo mewn modd priodol. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Rhaid darparu tystysgrif DBS foddhaol cyn y gellir cadarnhau dyddiad cychwyn.

Lawrlwytho Disgrifiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr