Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00759
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£33,882 i £37,999 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
2 Maw 2025
Dyddiad Cyfweliad
10 Maw 2025
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae hon yn swydd Cyfnod Penodol tan fis Medi 2025 gan weithio 21 awr yr wythnos

Mae'r rôl hon yn rhan o brosiect ar y cyd a ariennir gan Consumer Lab Hub sy'n ceisio deall sut mae bwyd fel 'aml-gyfansoddyn' (cynhyrchion bwyd unigol a chanddynt gyfansoddion y mae modd gwahaniaethu rhyngddynt yn synhwyraidd a ddygwyd ynghyd o ganlyniad i brosesu, er enghraifft, cwcis darnau siocled) yn effeithio ar ymddygiad bwyta a sut y gellid defnyddio hyn er budd dietau iach a chynaliadwy.

Bydd y rôl hon yn cynnwys cynnal profion gyda chyfranogwyr ar draws dwy astudiaeth a phrofi ar-lein ar gyfer un astudiaeth, gan fyfyrio ar fethodolegau meintiol ac ansoddol, a hynny yn y labordy ar Gampws Singleton ac mewn hyb cymunedol lleol yn Abertawe.

Mae'r Ysgol Seicoleg yn lle gwych i ymgymryd ag ymchwil sy'n bwysig. Rydym yn cynnal ymchwil gydweithredol a rhyngddisgyblaethol o safon sy'n cynnwys sbectrwm cyfan gwyddoniaeth seicolegol o ymchwil sylfaenol i ymchwil gymhwysol. Mae'r gweithgarwch ymchwil hwn yn defnyddio ymchwil flaenorol ar barodrwydd defnyddwyr i dderbyn bwydydd a chynhwysion arloesol a chynaliadwy a bydd yn rhan o Grŵp Ymchwil Maeth, Archwaeth a Gwybyddiaeth Abertawe (SNAC) sy'n cynnal ymchwil seicolegol ar sbardunau ymddygiad bwyta (yn ogystal â meysydd cysylltiedig).

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Mae dynion wedi’u tangynrychioli yn y byd ymchwil a byddem yn croesawu ceisiadau gan ddynion yn benodol ar gyfer y swydd hon. Hefyd mae unigolion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig wedi’u tangynrychioli a byddem yn annog ceisiadau gan y grwpiau hyn.Penodir ar sail teilyngdod bob amser.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho Disgrifiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr