- Rhif y Swydd
- SD03219
- Math o Gytundeb
- Contract anghyfyngedig
- Cyflog
- £24,350 i £28,150 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Arall
- Lleoliad
- Hybrid
- Dyddiad Cau
- 17 Maw 2025
- Dyddiad Cyfweliad
- 2 Ebr 2025
- Ymholiadau Anffurfiol
- Liz Stratton e.stratton@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae'r swydd hon wedi'i lleoli ar Gampws y Bae, Abertawe, ond gallai fod angen mynd i gyfarfodydd ar Gampws Parc Singleton o bryd i'w gilydd.
Mae'r rôl yn un swyddfa, gyda'r potensial am 2 ddiwrnod yr wythnos ar y mwyaf yn gweithio gartref. Yn ystod cyfnodau prysur, efallai y bydd angen gweithio gyda'r nos neu ar benwythnosau neu ddiwrnodau ychwanegol yn y swyddfa.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw . Nid oes angen sgiliau Cymraeg.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Dylech anfon llythyr eglurhaol yn arddangos eich addasrwydd ar gyfer y rôl, ynghyd â'ch CV at Liz Stratton, Cyfarwyddwr Bywyd Myfyrwyr, Y Coleg, Prifysgol Abertawe: e.stratton@swansea.ac.uk.
Dyddiad cau: 09:00 dydd Llun, 17 Mawrth– dilynwch y cyfarwyddiadau ar ddiwedd y disgrifiad swydd ar gyfer cyflwyno cais, peidiwch â chwblhau ffurflen gais ar-lein y Brifysgol.