- Rhif y Swydd
- SU00971
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £39,355 i £45,413 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
- Lleoliad
- Arall - Gweler y disgrifiad swydd
- Dyddiad Cau
- 29 Meh 2025
- Dyddiad Cyfweliad
- 17 Gorff 2025
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Mary Gagen m.h.gagen@swansea.ac.uk
- Will Bryan w.a.bryan@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Gwahoddir ymgeiswyr i gyflwyno cais am rôl Swyddog Ymchwil yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, i weithio ar y prosiect allgymorth S4 (Cynllun Gwyddoniaeth i Ysgolion Prifysgol Abertawe) https://s4science.co.uk/).
Bydd y Swyddog Ymchwil yn gweithio'n annibynnol i gynhyrchu cyfres o adroddiadau a phapurau ymchwil a fydd yn sylfaen i amcanion lledaenu i'w cyflawni ar gyfer Gwerthusiad Carfan Hydredol (LCE) o gyfranogwyr mewn rhaglen allgymorth STEM ar y campws. Mae'r LCE wedi cael ei gynnal ac mae'r drafftiau o'r adroddiadau a'r papurau wedi'u cwblhau. Bydd y Swyddog Ymchwil yn cwblhau dadansoddiad llawn o'r LCE ac yn cyhoeddi'r adroddiadau a'r papurau.
Bydd angen arbenigedd wrth ddefnyddio SPSS a NVivo i gwblhau'r dadansoddiad. Mae PhD mewn Daearyddiaeth Ddynol neu ddisgyblaeth berthnasol yn y gwyddorau cymdeithasol yn ddymunol, ac mae profiad o ymchwil i ehangu mynediad at addysg a chynwysoldeb STEM yn ofynnol.
Rydym yn chwilio am ymchwilydd ôl-ddoethurol â chymwysterau addas ym maes daearyddiaeth ddynol i gyflawni gwaith tymor byr yn dadansoddi data gwerthuso’r rhaglen S4. Cafodd data'r LCE ei gasglu gan fyfyrwyr ysgolion uwchradd (o ardaloedd o anfantais gymdeithasol ac economaidd yn ne Cymru) ar ôl iddynt gymryd rhan mewn rhaglen ymyrraeth wyddonol ar gampws prifysgol. Cyflwynodd S4 leoliadau gwyddoniaeth ac addysg uwch i fyfyrwyr a gwerthusodd yr effaith a gafwyd ar eu syniadau am wyddoniaeth, gyrfaoedd yn y dyfodol, mynediad at addysg uwch a'u huchelgeisiau. Cafodd y rhaglen ei chynnal o safbwynt damcaniaethol eang 'Cyfalaf Gwyddoniaeth'.
Bydd y Swyddog Ymchwil yn sicrhau bod nodau strategol y prosiect yn cael eu gwireddu drwy set benodol o amcanion i'w cyflawni. 'Prosiect sbrint' yw hwn sy'n cynnwys amcanion rheolaidd, unigol, i'w cyflawni dros gyfnod byr o amser. Bydd y Swyddog Ymchwil yn gweithio'n agos gyda'r Academyddion Arweiniol i wireddu gweledigaeth a rennir y prosiect.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Bydd angen darparu tystysgrif foddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau Dilëwch os nad yw’n berthnasol]
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swyd Lawrlwytho PS-Candidate-Brochure-(CY).pdf Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr