- Rhif y Swydd
- SU01033
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £23,881 i £25,733 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
- Lleoliad
- Campws y Bae, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 6 Gorff 2025
- Dyddiad Cyfweliad
- 15 Gorff 2025
- Ymholiadau Anffurfiol
- Claire Musselwhite c.e.musselwhite@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae Rhaglen Gymorth Mathemateg Cymru yn chwilio am 2 gynorthwy-ydd cymorth prosiect amser llawn i drefnu, hyrwyddo a chydlynu digwyddiadau i fyfyrwyr ac athrawon yn ne Cymru.Bydd un rôl wedi'i lleoli ar Gampws y Bae, tra bydd y llall wedi'i rhannu, gan weithio ar Gampws y Bae ac ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd y rôl yn cynnwys gweithio yn Adran Fathemateg Prifysgol Abertawe ar gyfer Rhaglen Cymorth Mathemateg Cymru (MSPW) a ariennir gan Lywodraeth Cymru.Diben y cyllid yw galluogi’r Rhaglen Cymorth Mathemateg Cymru i wella mynediad at Fathemateg AS/A2 yng Nghymru drwy gryfhau'r gallu i gyflwyno ar draws pob rhanbarth ar lefelau cyn ac ôl-16.Mae'r rhaglen ar gyfer Cymru gyfan ac mae ganddi swyddfeydd ym Mhrifysgolion Abertawe, Bangor, Aberystwyth a Chaerdydd. Mae Rhaglen Cymorth Mathemateg Cymru yn brosiect prysur ac yn flynyddol mae'n cynnal digwyddiadau a gweithgareddau i dros 3000 o fyfyrwyr ledled Cymru a 250+ o athrawon ar gyfer Dysgu Proffesiynol.Mae'r digwyddiadau'n seiliedig ar gyfoethogi a'u nod yw bod yn addysgol, yn llawn hwyl ac ysbrydoliaeth i fyfyrwyr blwyddyn 3 i 13. Y rôl yw darparu cefnogaeth a chymorth i dîm Rhaglen Cymorth Mathemateg Cymru i gynnal gweithgareddau a digwyddiadau effeithiol wedi’u llywio gan dargedau.Byddwch yn darparu gwaith gweinyddol o safon uchel ar gyfer materion trefniadol ac ariannol ar draws gweithgareddau'r prosiect. Rhaid i ddeiliad y swydd allu gweithio dan bwysau, bod yn gyfeillgar, gweithio'n dda mewn tîm, gallu gweithio i derfynau amser a bod â brwdfrydedd dros Fathemateg.Mae'r sgiliau gofynnol yn cynnwys profiad o ddefnyddio Excel a Word Press, defnyddio cyfryngau cymdeithasol at ddiben marchnata, a dealltwriaeth o weithdrefnau ariannol. Dylai'r ymgeisydd allu awgrymu atebion, trefnu ei lwyth gwaith ei hun, blaenoriaethu tasgau, rhoi sylw ardderchog i fanylion a gallu addasu.Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.