Cynghorydd Diogelu ac Ymateb i Ddatgeliadau (Iechyd Meddwl)
- Rhif y Swydd
- SU01074
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £39,355 i £45,413 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Bywyd Myfyriwr
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 4 Awst 2025
- Dyddiad Cyfweliad
- 22 Awst 2025
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Nicola Billingham n.a.billingham@swansea.ac.uk
- Cheryl Pierce c.a.pierce@Swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae hwn yn swydd cyfnod penodol.
Mae'r adran yn recriwtio Cynghorydd Diogelu ac Ymateb i Ddatgeliadau sy'n arbenigo mewn Iechyd Meddwl.
Mae angen clinigwr profiadol er mwyn cyflwyno cymorth iechyd meddwl priodol, yn ogystal â rhoi cyngor ac arweiniad ar gyflyrau iechyd meddwl, gan gynorthwyo gydag asesiadau risg er mwyn sicrhau bod myfyrwyr a ystyrir yn unigolion risg uchel, neu sydd ag anghenion cymhleth, yn cael eu cefnogi a bod ymyriadau diogelwch a risg yn cael eu cydlynu'n effeithiol.
Rhoi cymorth, arbenigedd, cyngor ac arweiniad ynghylch iechyd meddwl i staff yn y tîm Diogelu ac Ymateb i Ddatgeliadau (SDR), gan ddefnyddio goruchwyliaeth gan gymheiriaid i gefnogi mewn achosion lle mae gan fyfyrwyr broblemau a phryderon cymhleth, er mwyn sicrhau ymagwedd gyfannol ar gyfer myfyrwyr sydd wedi datgelu problem iechyd meddwl.
Cynorthwyo wrth gydlynu unrhyw gymorth ychwanegol sy’n angenrheidiol ar draws y Brifysgol, cyfathrebu dros y ffôn a bod yn gyswllt i fyfyrwyr, staff a rhieni/gwarcheidwaid ynghylch pryderon iechyd meddwl, tra'n cadw cofnod o'r holl asesiadau, gweithredoedd a chanlyniadau ar systemau cofnodi presennol.
Hwyluso sesiynau datblygu er mwyn gwella hyder a sylfaen wybodaeth y tîm Diogelu ac Ymateb i Ddatgeliadau (SDR) ynghylch materion iechyd meddwl, a darparu hyfforddiant i grwpiau o staff y Brifysgol ac aelodau allweddol o Undeb y Myfyrwyr e.e. aelodau staff amser llawn, Capteiniaid Timau, arweinwyr cymdeithasau, etc. er mwyn hyrwyddo dealltwriaeth well o anawsterau emosiynol a seicolegol sy'n gysylltiedig â phroblemau iechyd meddwl, a'r ffordd orau o'u cefnogi nhw.
Bod yn ymwybodol o ymchwil ac arferion cyfredol ym maes iechyd meddwl a lles myfyrwyr, a chymryd rhan mewn rhwydweithiau a sefydliadau mewnol ac allanol, er mwyn rhannu adborth ac arfer gorau ar draws y sector.
Yn achlysurol, cyflawni dyletswyddau ychwanegol nad ydynt wedi eu cynnwys uchod, ond sy'n gyson â chyfrifoldebau'r rôl.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth foddhaol o wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Lawrlwytho Llyfryn yr Ymgeisydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr