Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01093
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£23,881 i £25,733 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Llawn Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
10 Awst 2025
Dyddiad Cyfweliad
21 Awst 2025
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae'r grŵp Ymchwil Cylchoedd Coed yn Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Abertawe am benodi Technegydd Labordy i gefnogi ymchwil ym maes dendrocronoleg isotopau. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n agos gyda'r Athro Loader ac fel rhan o dîm ymchwil bach i gyflawni agenda ymchwil ac uchelgeisiau strategol y grŵp ymchwil: datblygu a gwella dendrocronoleg a dendrohinsoddeg isotopau. Mae rhagor o fanylion am waith ymchwil y grŵp ar gael yma – https://www.oak-research.co.uk/

Swydd am gyfnod penodol o ddwy flynedd yw hon i ddechrau. Mae'n gysylltiedig yn anffurfiol â phrosiect ymchwil QUERCUS a ddetholwyd gan y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd ac a ariennir gan UKRI. Prif gyfrifoldebau’r gwaith hwn fydd torri cylchoedd coed yn fanwl gywir, paratoi seliwlos a phwyso samplau seliwlos bychain. Er mwyn cwblhau'r tasgau hyn yn unol â safon ofynnol y dechneg dyddio ar sail isotopau, byddai'n rhaid i ymgeiswyr fel arfer fod yn ddeheuig â'u dwylo a bod yn fanwl gywir, yn amyneddgar ac yn drefnus iawn. Mae sgiliau cyfathrebu da, profiad blaenorol o weithio mewn tîm, gwaith labordy a phrofiad o MSOffice yn hanfodol. Mae profiad o ysgrifennu adroddiadau a dealltwriaeth sylfaenol o ddendrocronoleg a dendrohinsoddeg yn ddymunol.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho FSE-Candidate-Brochure-(CY).pdf Lawrlwytho Disgrifiad swydd.docx Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr