Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SD03222
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£42.00 - £45.00 yr awr
Patrwm Gweithio
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Arall
Lleoliad
Arall - Gweler y disgrifiad swydd
Dyddiad Cau
11 Awst 2025
Dyddiad Cyfweliad
22 Gorff 2025
Ymholiadau Anffurfiol
c.l.edwards@swansea.ac.uk Clair Edwards

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Mae Y Coleg, Prifysgol Abertawe, yn bartneriaeth menter ar y cyd rhwng Prifysgol Abertawe a Navitas, ac mae wedi bod yn bartneriaeth llwyddiannus iawn ers 14 mlynedd, pan gafodd ei sefydlu'n wreiddiol fel Coleg Rhyngwladol Cymru, Abertawe (ICWS). Lansiwyd Y Coleg, Prifysgol Abertawe yn 2018, ac ar y cyd â chwblhau adeilad academaidd newydd sbon (mis Hydref 2018) a llety i fyfyrwyr (mis Ionawr 2019), roedd hyn yn nodi cyfnod newydd yn y berthynas hon.

Mae Y Coleg yn rhan o frand Prifysgol Abertawe ac mae'n darparu portffolio cynhwysfawr o raglenni llwybr sy'n arwain at raddau israddedig ac ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe. Mae Y Coleg yn addysgu drwy gydol y flwyddyn, gyda 3 phrif cyfnod cofrestru sef mis Medi, mis Ionawr a mis Mehefin.

Y rôl

Rydym am benodi Darlithydd brwdfrydig sy'n gymwysedig i addysgu cemeg i ymuno â'n tîm academaidd. Yn ogystal, yr ymgeisydd llwyddiannus fydd yr Arweinydd Academaidd ar gyfer rhaglenni Gwyddoniaeth a Pheirianneg. 

Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn angerddol am gyflwyno a datblygu dealltwriaeth a chwilfrydedd myfyrwyr, bydd ganddo gefndir academaidd cryf, a bydd yn ymroddedig i greu amgylchedd dysgu diddorol. Byddwch yn chwarae rôl allweddol wrth gyflwyno gwybodaeth ar lefel sylfaen, israddedig a chyn gradd Meistr, gan arwain myfyrwyr yn ystod eu hastudiaethau academaidd er mwyn iddynt ddatblygu meddylfryd chwilfrydig a beirniadol, a chyfrannu at weithgareddau ehangach Y Coleg.

Fel yr Arweinydd Academaidd, byddwch chi'n gweithio mewn partneriaeth ag Uwch-reolwyr Y Coleg, gyda chyfrifoldeb am sicrhau uniondeb academaidd rhaglenni sy'n rhan o bortffolio llwybrau Y Coleg. Mae’r gweithgarwch hwn yn cefnogi gwella profiad y myfyrwyr a chanlyniadau academaidd gwell.

Dewch yn gyfarwydd â rhaglenni’r Coleg drwy ddilyn y ddolen hon: 

 https://www.swansea.ac.uk/cy/y-brifysgol/cyfadrannau/y-coleg/  

Anfonwch eich CV a llythyr yn esbonio pam rydych chi'n addas ar gyfer y rôl yn unol a’r meini prawf uchod at Clair Edwards, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu yn c.l.edwards@abertawe.ac.uk

Os hoffech chi ofyn unrhyw gwestiynau am y rôl hon neu os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am eich addasrwydd, cysylltwch â Clair Edwards.

Oherwydd gall oriau addysgu amrywio yn ystod y flwyddyn academaidd, cytunir ar amserlen o oriau gyda deiliad y swydd ar ddechrau pob semester.

Bydd y contract cyfnod penodol am ddau semester i ddechrau, gyda'r posibilrwydd o estyniad.

Sylwer bod yn rhaid i ymgeiswyr fod yn gymwys i weithio yn y DU ar gyfer y rôl hon. 

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw . Nid oes angen sgiliau Cymraeg.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho Disgrifiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr