- Rhif y Swydd
- SU01115
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £29,959 i £33,482 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyllid
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 31 Gorff 2025
- Dyddiad Cyfweliad
- 8 Awst 2025
- Ymholiadau Anffurfiol
- Debbie Jones d.l.jones@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Swydd tymor penodol yw hon tan 30 Ebrill 2026 ac mae wedi'i lleoli yn y tîm Systemau Cyllid yn yr Adran Gyllid.
Nod yr Adran Gyllid yw darparu gwasanaeth ariannol cost-effeithiol, effeithlon a phroffesiynol, gan gynnwys rhoi cyngor, cyfarwyddyd, arweiniad a chymorth i holl aelodau'r Brifysgol.
Chi fydd y prif gyswllt ar gyfer ymholiadau cyllid sy'n ymwneud â System ERP y Brifysgol. Bydd disgwyl i chi roi cyngor ac arweiniad i gydweithwyr ar draws y Brifysgol, gan uwchgyfeirio galwadau i gydweithwyr yn y tîm pan fydd angen a rheoli'r uwchgyfeiriadau hynny.
Byddwch yn cefnogi staff ar draws cymuned y Brifysgol (academaidd, rheoli a gweinyddu) a sefydliadau cysylltiedig drwy ddarparu arbenigedd a chyngor ar systemau cyllid y Brifysgol. Yn y rôl hon, byddwch chi hefyd yn cyfrannu at ddatblygu a gwella’r system ERP i wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.
Bydd gennych chi brofiad o ddarparu gwasanaeth proffesiynol, effeithlon sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid i ddefnyddwyr a bydd gennych chi brofiad o weithio gyda system gyllid/gyfrifyddu.
Bydd angen sgiliau rhyngbersonol cryf arnoch, ynghyd â'r gallu i gyfathrebu â chydweithwyr ar bob lefel. Byddwch chi'n drefnus, yn meddu ar sgiliau rheoli amser da a'r gallu i flaenoriaethu gwaith a bodloni terfynau amser tynn. Yn ogystal, bydd rhaid bod gennych chi sgiliau TG uwch, yn enwedig wrth ddefnyddio pecynnau meddalwedd Microsoft safonol a phorwyr rhyngrwyd, ynghyd â'r parodrwydd i ddatblygu eich sgiliau TG mewn perthynas â meddalwedd arbenigol sy'n cael ei defnyddio yn y Brifysgol.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Llyfryn Yr Ymgeisydd Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr