Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01125
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£39,355 i £45,413 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Rhan Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
7 Awst 2025
Dyddiad Cyfweliad
21 Awst 2025
Ymholiadau Anffurfiol
Laura Thomas Laura.e.thomas@swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Dyma swydd am gyfnod penodol tan fis Mai 2026, yn gweithio 17.5 awr yr wythnos.

Rydym yn chwilio am unigolyn hynod ddawnus a brwdfrydig i gefnogi astudiaeth ymchwil glinigol sydd â'r nod o wella dealltwriaeth o sut mae canser y coluddyn yn datblygu mewn cleifion a chanddynt ragdueddiad a etifeddwyd i ganser (Polyposis sy’n gysylltiedig ag MUTYH:). Dyma swydd ran-amser (50% CALl) ar gontract cyfnod penodol am naw mis. Arweinir y prosiect gan Dr Laura Thomas (Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe) a chaiff ei ariannu gan MEDR, Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil Cymru.

Canser y colon a'r rhefr (CRC) yw 4ydd canser mwyaf cyffredin y DU ac mae'n gysylltiedig â baich gofal iechyd sylweddol. Er bod y rhan fwyaf o achosion o CRC yn datblygu ar hap, mae hyd at 35% o ganlyniad i ffactorau a etifeddir. Mae hyn yn cynnwys y cyflwr genetig polyposis sy'n gysylltiedig ag MUTYH (MAP) lle mae cleifion yn datblygu nifer o bolypau yn y colon a'r rhefr, sy’n cynyddu'n sylweddol y risg o CRC ar hyd oes hyd at 90%, gan arwain at risg gronnol o 63% erbyn iddynt gyrraedd 60 oed. Ar ben hyn, mae gan gleifion MAP risg uchel o ganser dwodenal a chyflyrau eraill y tu allan i’r colon.

Nid yw sbectrwm clinigol clefyd y coluddyn mewn cleifion â MAP wedi'i ddeall yn dda. Mae MAP yn ymddangos ar amrywiaeth fawr o ffurfiau, hyd yn oed mewn teuluoedd sy'n rhannu'r un mwtaniad genetig, ac mae'r clefyd yn datblygu hyd at lefel ddifrifol er gwaethaf glynu wrth y canllawiau rheoli presennol. Nid yw effeithiolrwydd y canllawiau clinigol ar gyfer atal clefyd rhag datblygu mewn cleifion â MAP wedi cael ei astudio. Yn bwysig, nid oes unrhyw astudiaethau hirdymor o ddatblygiad clefyd mewn cleifion â MAP yn yr arfaeth. Gan ystyried y bylchau presennol hyn mewn gwybodaeth, ein damcaniaeth ni yw nad yw’r canllawiau clinigol presennol yn ddigonol i ganfod a rheoli'r risg uwch o ddatblygu clefyd y coluddyn a’i atal rhag gwaethygu mewn cleifion â MAP.

Ar gyfer y prosiect hwn, bydd deiliad y swydd yn casglu ac yn cynnal data cleifion (gan gynnwys cyfrifoldeb am lywodraethu a chontractau ar gyfer casglu data) gan bartneriaid mewn consortiwm rhyngwladol. Bydd yn defnyddio'r set ddata clinigol fwyaf y bwriedir ei chasglu gan gleifion MAP i nodi datblygiad clefyd a ffactorau sy'n gysylltiedig â gwaethygiad. Bydd y set ddata yn darparu sylfaen dystiolaeth i ddatblygu argymhellion clinigol yn y dyfodol ar gyfer rheoli cleifion â MAP.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Dylai'r llythyr eglurhaol a'r CV fanylu ar brofiad o gefnogi ac arwain ymchwil sy'n canolbwyntio ar gleifion, gan gynnwys profiad o lywodraethu ymchwil a threialon clinigol.

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr