Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01196
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£16.41 yr awr
Patrwm Gweithio
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Ystadau a Gwasanaethau Campws
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
21 Medi 2025
Dyddiad Cyfweliad
24 Medi 2025
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae ein Hacademi Athletau'n darparu ar gyfer plant o bob allu rhwng 8 a 9 oed (blwyddyn ysgol 4). Nod yr Academi yw rhoi cyflwyniad i athletau i gyfranogwyr, yn ogystal â'r disgyblaethau amrywiol sy'n rhan o'r gamp, ynghyd â rhai sgiliau symudiad craidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio fel rhan o dîm bach o hyfforddwyr i gyflwyno sesiynau athletau o dan oruchwyliaeth Prif Hyfforddwr. Cynhelir sesiynau yn y Ganolfan Athletau a Hoci, Parc Chwaraeon Bae Abertawe.

Bydd deiliaid y swyddi'n cynorthwyo wrth ddarparu ein Hacademi Athletau Iau, sef cynllun a gynhelir am ddwy noson yr wythnos am dri thymor 10 wythnos ar hyn o bryd. Disgwylir i ymgeiswyr ddarparu'r ystod lawn o weithgareddau athletau, sy'n cael eu rhannu ar sail rhedeg/neidio/taflu bob wythnos.

Dylai ymgeiswyr feddu ar gymhwyster 'Cynorthwy-ydd Hyfforddi' cyfredol gan UKA neu fod yn barod i ymgymryd â'r hyfforddiant angenrheidiol i ennill y cymhwyster hwn cyn mis Hydref 2025. Mae profiad o hyfforddi athletwyr ifanc/newydd yn ddymunol hefyd, fel y mae tystiolaeth o weithio mewn tîm bach, sgiliau rhyngbersonol ardderchog a gwybodaeth dechnegol gadarn ar draws pob disgyblaeth athletau.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Rhaid darparu tystysgrif foddhaol gan y GDG cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau.

Lawrlwytho Llyfryn yr Ymgeisydd Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr