- Rhif y Swydd
- SU01198
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £26,338 i £29,179 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Gwasanaethau Addysg
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 12 Hyd 2025
- Dyddiad Cyfweliad
- 22 Hyd 2025
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Alexia Williams alexia.williams@swansea.ac.uk
- Alexandra Jones alexandra.l.jones@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Prif nod y Cynorthwy-ydd Cyllid Myfyrwyr fydd ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau hanfodol yn y Swyddfa Cofnodion Myfyrwyr i sicrhau bod y Brifysgol yn cydymffurfio â pholisi, cytundebau lefel gwasanaeth, dyletswyddau a chyfrifoldebau mewn perthynas â Chyllid Myfyrwyr. Prif ddiben y rôl yw cefnogi swyddogaeth cyllid myfyrwyr y Brifysgol drwy fonitro, olrhain ac adrodd ar ddata noddwyr a ffïoedd dysgu a rhoi gwybod am newidiadau yn amgylchiadau myfyrwyr i'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr drwy'r porth HEP pan fo'n briodol. Yn atebol i'r Swyddog Cofnodion Myfyrwyr, bydd deiliad y swydd hefyd yn gweithio'n agos gyda staff holl Gyfadrannau'r Brifysgol a chydweithwyr mewn adrannau Gwasanaethau Proffesiynol eraill a disgwylir iddo ddarparu gwasanaethau gweinyddol a chyngor a chymorth arbenigol i fyfyrwyr a staff yn ôl yr angen.
Rhaid i ymgeiswyr fod yn llawn cymhelliant, yn rhagweithiol, yn drefnus a meddu ar sgiliau TG ardderchog. Rhaid iddynt ddangos y gallu i gyfathrebu ag amrywiaeth eang o bobl a gallu parchu lefel uchel o gyfrinachedd.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Nid yw myfyrwyr presennol yn gymwys i wneud cais am y swydd hon oherwydd cydymffurfiaeth â'r GDPR a gwrthdaro buddiannau
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Lawrlwytho PS-Llyfryn yr Ymgeisydd-(CY).pdf Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr