- Rhif y Swydd
- SU01229
- Math o Gytundeb
- Contract anghyfyngedig
- Cyflog
- £34,132 i £38,249 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 17 Hyd 2025
- Dyddiad Cyfweliad
- 6 Tach 2025
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Dr Gwennan Higham g.e.higham@swansea.ac.uk
- Professor Richard Thomas Richard.h.thomas@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae'r swydd Cymrawd Addysgu hon yn gyfle i ymuno â thîm y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, gan gyfrannu at ei raglenni gradd BA Cymraeg cyffrous ac arloesol. Bydd y swydd yn cynnwys addysgu amrywiaeth o fodiwlau i fyfyrwyr israddedig â gwahanol alluoedd ieithyddol, gan gyfrannu at raddau Iaith Gyntaf ac Ail Iaith.
Rydym yn chwilio am unigolyn sy'n angerddol ac yn frwdfrydig dros addysgu'r Gymraeg fel iaith, ei llenyddiaeth ac astudiaethau diwylliannol cysylltiedig. Bydd angen gwybodaeth eang am y ddisgyblaeth ar yr ymgeisydd llwyddiannus er mwyn cyfrannu at amrywiaeth eang o fodiwlau ond gall arbenigo mewn un neu fwy o'r agweddau canlynol: llenyddiaeth y Gymraeg, iaith (gramadeg a/neu gaffael iaith), cyfraith a pholisi iaith Cymru, cyfieithu, hanes Cymru, sosioieithyddiaeth, Cymraeg Proffesiynol a/neu addysg.
Mae cyfrifoldebau allweddol y swydd yn cynnwys paratoi a chyflwyno cynnwys darlithoedd a seminarau, rhoi adborth ffurfiannol, asesu gwaith cwrs, a chymryd rhan mewn gweithgareddau i gynnig cefnogaeth academaidd e.e. oriau swyddfa a sesiynau adolygu.
Bydd y Cymrawd Addysgu yn cefnogi datblygiad Cymraeg ysgrifenedig a llafar y myfyrwyr trwy seminarau gyda grwpiau bach, gweithdai a sesiynau un-i-un. Byddant yn gweithio'n agos gyda'r tîm addysgu i sicrhau bod myfyrwyr yn derbyn profiad dysgu heb ei ail. Yn ogystal, disgwylir i ddeiliad y swydd gyfrannu at ymdrechion recriwtio a chyflawni rolau gweinyddol ar gyfer y pwnc.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i gyfrannu at gymuned academaidd fywiog a chynhwysol sy'n gwerthfawrogi'r iaith a'i diwylliant. Mae'r swydd yn cynnig profiad addysgu gwerthfawr a'r cyfle i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o siaradwyr, awduron, a'r rhai a fydd yn cyfrannu'n fawr at ddiwylliant Cymru.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 3 - Rhugl. Bydd deiliad y swydd yn gallu cynnal sgwrs rugl yn y Gymraeg ar fater sy'n gysylltiedig â gwaith ac ysgrifennu deunydd Cymraeg gwreiddiol yn hyderus.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Lawrlwytho Llyfryn Yr Ymgeisydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr