- Rhif y Swydd
- SU01263
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £34,132 i £38,249 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Rhan Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
- Lleoliad
- Campws y Bae, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 5 Tach 2025
- Dyddiad Cyfweliad
- 21 Tach 2025
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Natalie Brown Natalie.brown@swansea.ac.uk
- Beky Williams beky@strideactive.org
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Bydd y cynorthwy-ydd ymchwil yn cefnogi prosiect ymchwil parhaus, Period Education UK (www.periodeducation.org), i wella addysg am y misglwyf mewn ysgolion ledled y DU. Mae'r tîm ymchwil yn cynnwys academyddion ac unigolion yn cydweithio ag ysgolion er mwyn sicrhau y ceir cydbwysedd rhwng ymchwil a throsglwyddo gwybodaeth. Mae ein gwaith ymchwil wedi nodi mai dim ond 50% o ysgolion yn y DU sy'n darparu addysg am y misglwyf, a bod hynny’n canolbwyntio ar y fioleg yn hytrach na phrofiadau bywyd, afreoleidd-dra a rheolaeth yn ystod gweithgarwch corfforol (Brown et al., 2022). Rydym wedi datblygu a chynnal peilot o ymyriad addysg am y misglwyf llwyddiannus mewn ysgolion uwchradd, ac erbyn hyn rydym am ehangu ein gwaith ymchwil a'n heffaith i gefnogi ysgolion cynradd. Bydd y Cynorthwy-ydd Ymchwil yn gweithio gyda thîm craidd o athrawon ysgolion cynradd, yn casglu gwybodaeth ac yn creu adnoddau sy'n addas at y diben i gyflymu effaith canfyddiadau ein gwaith ymchwil mewn ysgolion cynradd ledled y DU.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Bydd angen darparu tystysgrif foddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau
Disgwylir cynnal y cyfweliadau'r wythnos sy'n dechrau 13 Hydref
Bydd deiliad y rôl hon yn gweithio o bell, sef gartref/ar-lein gyda'r posibilrwydd o deithio i ymweld ag ysgolion yn y DU
Rhannu Lawrlwytho FSE-Candidate-Brochure-(CY).pdf Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr