- Rhif y Swydd
- SU01265
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £23,881 i £25,733 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Rhan Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Bywyd Myfyriwr
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 24 Tach 2025
- Dyddiad Cyfweliad
- 3 Rhag 2025
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Danielle Gummer d.m.gummer@swansea.ac.uk
- Gareth Evans gareth.evans@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Swydd ran-amser am gyfnod penodol tan 30 Mehefin 2026 yw hon. Mae gweithio ar y campws am 75% o'r amser yn ofynnol ar gyfer y rôl hon e.e. 3 diwrnod; fodd bynnag, mae'n ofynnol i chi fod ar y campws drwy gydol yr holl hyfforddiant.
Mae'r adran yn dymuno penodi Cynorthwy-ydd i fod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer myfyrwyr ac ymwelwyr sy'n cysylltu â’r Gwasanaeth Lles ac Anabledd.
Rydym yn dymuno penodi Cynorthwy-ydd brwdfrydig ac effeithlon i weithio fel rhan o dîm cymorth Lles ac Anabledd, gan fod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer yr amrywiaeth eang o fyfyrwyr ac ymwelwyr sy'n defnyddio'r gwasanaeth, yn ogystal â chyflawni amrywiaeth eang o ddyletswyddau gweinyddol.
Rhaid i ymgeiswyr fod hunangymhellol, yn rhagweithiol ac yn drefnus iawn, gan feddu ar sgiliau TG rhagorol. Mae'r gallu i weithio'n annibynnol, yn ogystal â'r gallu i weithio'n gydweithredol gyda'r tîm cymorth a'r gwasanaeth ehangach yn ofynnol. O ganlyniad i natur sensitif yr wybodaeth a ddatgelir yn y gwasanaeth, mae lefel uchel o gyfrinachedd hefyd yn ofynnol.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhaid darparu tystysgrif foddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr