- Rhif y Swydd
- SU01270
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £34,132 i £38,249 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
- Lleoliad
- Campws y Bae, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 14 Rhag 2025
- Dyddiad Cyfweliad
- 8 Ion 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Dr Trang Doan t.t.doan@swansea.ac.uk
- Prof Siraj Shaikh s.a.shaikh@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae prosiect ENCYRCLE yn chwilio am gynorthwy-ydd ymchwil brwdfrydig i ymuno â thîm y prosiect ym Mhrifysgol Abertawe. Byddwch chi'n rhan o fenter ymchwil gwerth £2 filiwn gyda'r Ganolfan Ecsbloetio Data Genedlaethol (NDEC) sydd wedi'i lleoli yng Nghymru, rhan o'r cwmni technoleg blaenllaw byd-eang Thales, i gryfhau seiberwydnwch systemau cysylltiedig, gan gynnwys y rhai hynny mewn trafnidiaeth.
Wedi'i gefnogi gan gyllid gwerth £1 miliwn gan Bartneriaeth Ffyniant y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol, sy'n rhan o Ymchwil ac Arloesi y DU, bydd ENCYRCLE - Peirianneg ar gyfer Seiberwydnwch: Modelu a Dadansoddi Drwy Oes — yn canolbwyntio ar gryfhau seiberddiogelwch mewn isadeileddau trafnidiaeth, gweithgynhyrchu ac ynni.
Byddwch chi'n rhan o ddatblygu atebion arloesol i wella diogelwch technolegau cysylltiedig ac awtomataidd drwy gydol eu cylch oes. Dan arweiniad Dr Trang Doan, bydd eich tasgau'n cynnwys sefydlu a gwerthuso amgylcheddau offer, gan ganolbwyntio ar systemau modurol, amgodio modelau SysML a cryptograffeg ôl-gwantwm dilysu priodweddau seiberwydnwch trwy ddulliau profi wedi'u galluogi gan Ddeallusrwydd Artiffisial ar astudiaethau achos cymhwysol.
Arweinir ENCYRCLE gan yr Athro Siraj Shaikh, sy'n arwain y Grŵp Diogelwch Systemau (SSG) yn Abertawe. Mae'r prosiect ymchwil hwn yn cyd-fynd â strategaeth Llywodraeth y DU a bydd ei ganlyniadau'n llywio arferion gorau ac arweiniad diwydiant yn uniongyrchol, a bydd hefyd yn cyfrannu at systemau ac isadeiledd peirianneg gwydn. Bydd effaith y gwaith hwn yn llywio arweiniad ac egwyddorion sy'n sail i ddyluniad isadeileddau cenedlaethol allweddol a systemau peirianneg cymhleth mewn amrywiaeth o sectorau yn uniongyrchol
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad swydd.docx Lawrlwytho FSE-Candidate-Brochure-(CY).pdf Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr