Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01276
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£39,355 i £45,413 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Llawn Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
25 Tach 2025
Dyddiad Cyfweliad
3 Rhag 2025
Ymholiadau Anffurfiol
Daniel Power d.j.power@swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae'r adran yn dymuno penodi rhywun i ymgymryd â chymrodoriaeth ymchwil ôl-ddoethurol am ddwy flynedd, fel rhan o brosiect ar y cyd rhwng Prifysgol Abertawe a Jersey Heritage, sydd wedi'i ariannu drwy haelioni rhoddwyr preifat, ac a arweinir gan y Prif Ymchwilydd, yr Athro Daniel Power. Bydd deiliad y swydd yn ymchwilio i hanes maenorau Jersey a sefydliadau a diwylliant arglwyddiaethol yr ynys, o'r cyfnod dugol Normanaidd tan Ryfel Cartref Lloegr. Bydd deiliad y swydd yn ymchwilio i hanes maenorau Jersey ac yn ysgrifennu monograff ar y pwnc, yn ogystal â chyhoeddiadau ymchwil eraill lle bo'n briodol. Bydd deiliad y swydd yn ymdrin â chofnodion sydd wedi'u cyhoeddi a rhai heb eu cyhoeddi, gan gynnwys, lle bo'n briodol, mewn archifau cyhoeddus a phreifat yn Jersey, yn ogystal â chasgliadau cenedlaethol y DU ac archifau eraill, a bydd ganddo fynediad at gyllideb ar gyfer teithio. Bydd deiliad y swydd hefyd yn arwain y gwaith o drefnu cynhadledd yn ymwneud â hanes Jersey, a gynhelir yn Jersey yn ystod y prosiect (mwy na thebyg ym mis Medi 2027), mewn ymgynghoriad â Jersey Heritage a'r Prif Ymchwilydd, ac efallai y bydd hefyd yn cymryd rhan mewn digwyddiadau eraill sy'n ymwneud â’r cyhoedd.

Mae'r Adran Hanes, Treftadaeth a'r Clasuron yn rhan o'r Ysgol Diwylliant a Chyfathrebuyng Nghyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Abertawe. Mae'n cyflogi mwy na 30 o staff parhaol sy'n addysgu Hanes yr Henfyd, y Clasuron, Eifftoleg, Astudiaethau Treftadaeth a Hanes ac yn ymchwilio i'r pynciau hyn, ac mae'n gartref i raglenni israddedig ac MA sy'n cynnwys y disgyblaethau hyn, Astudiaethau Americanaidd, a Rhyfel a Chymdeithas. Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021, cyflawnodd yr adran Gyfartaledd Pwynt Gradd (GPA) o 3.09 yn gyffredinol, a barnwyd bod 76% o'i hallbynnau, ei heffaith a'i hamgylchedd yn arwain y ffordd y fyd-eang neu'n rhagori'n rhyngwladol.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Lawrlwytho Llynfryn Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr