Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01280
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£39,355 i £45,413 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Llawn Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Lleoliad
Campws y Bae, Abertawe
Dyddiad Cau
20 Tach 2025
Dyddiad Cyfweliad
5 Rhag 2025
Ymholiadau Anffurfiol
Prof Matt Jones Matt.jones@swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â phrosiect cymrodoriaeth EVE ym Mhrifysgol Abertawe fel Swyddog Ymchwil.

Bydd y gymrodoriaeth hon yn ysgogi naid uchelgeisiol pellach ymlaen mewn meddylfryd ac ymarfer drwy geisio dylanwadu ar ffurfiau newydd o ddeunydd AI a’u creu - algorithmau, rhyngwynebau ac ymgorfforiad - drwy geisio dod o hyd i atebion i gwestiwn cymhleth: ym mha ffyrdd gallwn ni wella bywyd i bawb drwy wrthrychau diriaethol a digidol rhyngweithiol sy'n harneisio eu galluoedd corfforol, emosiynol, gwybyddol a hyd yn oed ysbrydol wrth iddynt wneud synnwyr o’u bywydau a’u coreograffu. Mae ein hymagwedd yn un sy'n gweld arloesedd AI yn cael ei sbarduno gan ystyriaeth ddofn o'r egnïon hynny. 

Rydym yn defnyddio'r geiriad Everyone-Virtuoso-Everyday (EVE) i fynegi ffurf y systemau AI rhyngweithiol sydd o ddiddordeb i ni, cyd-destun eu defnydd a'u canlyniadau. Bydd y gwaith yn cynnwys dyfeisio a gwerthuso offerynnau a gaiff eu meistroli gan y rhai hynny sy'n dysgu sut i'w defnyddio. Bydd pobl yn defnyddio'r offerynnau hyn i 'berfformio' eu profiadau bywyd cyfoethog a thrwy hyn, yn creu perfformiadau sy'n rhoi llwyfan i ymgysylltiadau, gwybodaeth a dealltwriaethau dwfn ar eu cyfer eu hunain ac eraill, gan ehangu anghenion pob dydd ar gyfer cysylltiad, cyfraniad a bodlonrwydd.

Byddwch chi'n rhan o AI rhyngweithiol i wella galluoedd dynol drwy fodelau, hyfforddiant a gweithrediadau. Gan weithio gyda thîm prosiect EVE, bydd modd i chi gymhwyso AI blaengar wrth ddatblygu prototeipiau digidol a diriaethol. Bydd gennych chi hefyd gyfleoedd i gydweithio ag arbenigwyr a rhanddeiliaid i fireinio a datblygu prototeipiau a bwerir gan AI.  

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho FSE-Candidate-Brochure-(CY).pdf Lawrlwytho Disgrifiad swydd.docx Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr