- Rhif y Swydd
- SU01396
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £46,735 i £55,755 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Rhan Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 22 Chwef 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 13 Maw 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
- Rhiannon Owen r.k.owen@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Dyma swydd am gyfnod penodol tan 31 Mai 2028, yn gweithio 21 awr yr wythnos.
Rydym yn chwilio am Uwch-gymrawd Ymchwil mewn Ystadegau i hyrwyddo portffolio ymchwil deinamig y grŵp Gwyddor Data Poblogaethau (https://popdatasci.swan.ac.uk/cy/) yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain y gwaith o ddatblygu a chymhwyso dulliau dadansoddi uwch gan ddefnyddio'r amgylchedd data cysylltiedig cyfoethog ym Mhrifysgol Abertawe i ddarparu ymchwil sy'n cael effaith uchel o ran iechyd y cyhoedd a pherthnasedd polisi. Bydd deiliad y swydd yn rhan o'r Tîm Ystadegau, gan weithio'n agos gydag uwch-ymchwilwyr yn genedlaethol ac yn rhyngwladol dan arweinyddiaeth yr Athro Rhiannon Owen.
Mae'r grŵp Gwyddor Data Poblogaethau yn gartref i ymchwilwyr, gwyddonwyr data ac ystadegwyr blaenllaw sy'n canolbwyntio ar wneud y defnydd gorau o ddata aml-ddimensiwn ar raddfa fawr i wella bywydau'r boblogaeth. Mae ein tîm o arbenigwyr yn datblygu adnoddau a methodolegau dadansoddol arloesol i gysylltu a dadansoddi data gweinyddol, amgylcheddol ac iechyd (gan gynnwys data biolegol, clinigol a genomig) i fynd i'r afael â'r heriau ymchwil mwyaf dybryd ym myd iechyd. Mae'r tîm dadansoddeg uwch yn arbenigo mewn datblygu a chymhwyso methodoleg ystadegol (gan gynnwys dulliau Bayesaidd, dadansoddi goroesi uwch a chanfod achosion) i ddefnyddio'r data hwn i fynd i'r afael â chwestiynau polisi iechyd cymhleth. Fel rhan o'r grŵp Gwyddor Data Poblogaethau, bydd deiliad y swydd yn cael ei gefnogi i ymgymryd ag ymchwil arloesol sy'n creu effaith, ymgysylltu â phartneriaid a rhanddeiliaid cenedlaethol a rhyngwladol, a datblygiad proffesiynol parhaus drwy hyrwyddo sgiliau ac arbenigedd strategol.
Rydym am gael ceisiadau gan unigolion sydd ag enw da yn genedlaethol neu'n rhyngwladol wrth ddatblygu a chymhwyso dulliau ar gyfer dadansoddi data ar raddfa fawr (gan gynnwys syntheseiddio tystiolaeth), a chanddynt gefndir yn unrhyw un o'r meysydd canlynol: ystadegau, mathemateg, ymchwil weithredol, neu ddisgyblaethau gwyddor data cysylltiedig gydag elfen sylweddol o ddadansoddi uwch. Er bod arbenigeddau'n hyblyg, mae'n ofynnol eu bod yn cyd-fynd â diddordebau ymchwil y grŵp Gwyddor Data Poblogaethau.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr