- Rhif y Swydd
- SU01478
- Math o Gytundeb
- Permanent
- Cyflog
- £57,422 i £66,537 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Gwasanaethau Addysg
- Lleoliad
- Singleton neu Gampws y Bae, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 12 Ebr 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 29 Ebr 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Adrian Novis a.c.novis@swansea.ac.uk
- Debbie Ricci-Jones d.m.ricci@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Bydd Pennaeth y Gwasanaethau Ansawdd Addysg, sy'n rhan o'r Gwasanaethau Addysg, yn arwain y tîm Gwasanaethau Ansawdd Addysg a meysydd gwaith eraill sy'n gysylltiedig ag ansawdd. Bydd y rôl gyffrous hon yn cynrychioli'r gyfarwyddiaeth mewn amrywiaeth o fyrddau a phwyllgorau'r Brifysgol, ac yn arwain ar ddarparu gwybodaeth am wasanaethau i fyfyrwyr, staff a phartneriaid allanol.
Bydd y rôl hefyd yn chwarae rhan allweddol yn; ein perthnasoedd allanol â sefydliadau fel QAA a Medr, darparwyr addysg drawswladol, arlwy ar-lein/digidol y Brifysgol, cynllunio a rheoli cyllidebau, prosiectau haen un y Brifysgol sy'n gysylltiedig â Phortffolio Ansawdd Addysg y Brifysgol.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
I gyflwyno cais am y swydd hon, mae angen i chi ddarparu CV a llythyr eglurhaol.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi sut rydych yn bodloni meini prawf y fanyleb person fel y’u nodir yn y disgrifiad swydd drwy amlygu eich cymwysterau, eich sgiliau a’ch profiad perthnasol mewn llythyr eglurhaol.
Rhannu Lawrlwytho Llynfryn Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr