Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01507
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£39,355 i £45,413 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Llawn Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
7 Ebr 2026
Dyddiad Cyfweliad
6 Mai 2026
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Swydd amser llawn yw hon i gyflenwi am gyfnod absenoldeb mamolaeth tan fis Mai 2027.

Rydym eisiau penodi Darlithydd mewn Astudiaethau Cydymaith Meddygol i ymuno â'r tîm sy'n darparu'r radd Meistr Astudiaethau Cydymaith Meddygol (MPAS) yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe (https://www.swansea.ac.uk/postgraduate/taught/medicine/physician-associate-studies-mpas/). Fel darlithydd ar y rhaglen MPAS bydd angen i chi addysgu ar draws y rhaglen, wrth gyflwyno sgiliau cyfathrebu a chlinigol ac ar y modiwl Sylfaen mewn Meddygaeth Glinigol. Bydd angen i chi hefyd gynorthwyo wrth drefnu'r gwaith addysgu a pharatoi ar gyfer y sesiynau. At hynny, disgwylir i ddeiliad y swydd gyfrannu at asesiadau (eu llunio a'u hasesu), gweithredu fel tiwtor personol a chymryd rhan mewn cyfweliadau derbyn. Contract am gyfnod penodol yw hwn dros absenoldeb mamolaeth.

Sefydlwyd rhaglen Astudiaethau Cydymaith Meddygol Prifysgol Abertawe yn 2016 ac mae ganddi hanes llwyddiannus o addysgu myfyrwyr a chefnogi eu dilyniant a'u llwyddiant yn yr arholiad cydymaith meddygol cenedlaethol. Cynhelir y Rhaglen Astudiaethau Cydymaith Meddygol (MPAS) dros gyfnod o ddwy flynedd a bydd y myfyriwr yn treulio oddeutu hanner yr amser yn y Brifysgol a hanner arall yr amser ar leoliad gwaith. Mae'r rhaglen yn cynnwys sawl modiwl ac addysgir y cynnwys yn seiliedig ar y cwricwlwm astudiaethau cydymaith meddygol cenedlaethol (FPA 2022) a'r deilliannau dysgu cydymaith meddygol ac AA cyffredinol ac a rennir (GMC, 2022). Mae cymysgedd o staff ar y rhaglen o amryw broffesiynau gofal iechyd sy'n ychwanegu at gyfoeth ac amrywiaeth yr addysgu a'r profiadau addysgu y gallwn eu cynnig i fyfyrwyr. Mae’r swydd hon yn gyfle cyffrous i ymuno ag Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, un o Ysgolion Meddygaeth mwyaf blaenllaw’r DU.

Llwybr Gyrfa Academaidd

Mae'r swydd hon ar lwybr Addysg. Dyluniwyd cynllun y Llwybrau Gyrfa Academaidd i sicrhau bod cryfderau academaidd, boed mewn ymchwil, addysgu, profiad ehangach y myfyrwyr, arweinyddiaeth, neu arloesi ac ymgysylltu, i gyd yn cael eu cydnabod, eu datblygu, eu gwerthfawrogi a'u gwobrwyo mewn modd priodol. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Bydd yn rhaid i chi ddarparu tystysgrif foddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr