Os nad ydych yn gallu cerdded neu feicio i'n campysau, rydym yn eich annog i ddefnyddio cludiant cyhoeddus.

Mae cludiant cyhoeddus yn ffordd ddiogel, fforddiadwy a chynaliadwy o fynd hwnt ac yma.

Mae rhwydwaith Uni Bus First Cymru'n cysylltu ein dau gampws a chanol y ddinas. Os ydych chi rhwng 16 a 21 oed, gallwch chi wneud cais am  FyNgherdynTeithio AM DDIM, a chael disgowntiau gwerth 30% wrth deithio ar wasanaethau bws lleol, a thocynnau sengl am £1 yn unig.

 

Mae'r holl wybodaeth y mae ei hangen arnoch am deithio i Brifysgol Abertawe ac oddi yno ar gludiant cyhoeddus ar gael isod:

Swansea University Student wearing bright flowery pink cardigan using the ticket machine on a bus

Rhwydwaith Uni Bws First Cymru

Mae'r rhwydwaith UniBus a ddarperir gan First Bus wedi cael ei ddylunio gan ystyried anghenion myfyrwyr Abertawe. Mae nifer o lwybrau UniBus a llwybrau eraill sy'n cysylltu ein campysau a'r prif ardaloedd i fyfyrwyr, yn ogystal ag amrywiaeth o docynnau a phrisiau i ddiwallu eich anghenion.

Gallwch ddod o hyd i bopeth sydd angen i chi ei wybod, gan gynnwys sut i lawrlwytho ap defnyddiol First Bus, ar wefan First Bus - defnyddiwch y ddolen isod.

Wefan First Bus

Cludiant Cyhoeddus - Cwestiynau Cyffredin