Lletygarwch
Ni waeth maint eich digwyddiad, bydd y Gwasanaethau Arlwyo ym Mhrifysgol Abertawe’n darparu lletygarwch o’r radd flaenaf ar draws y ddau gampws.
Gan ddefnyddio’r cynhwysion gorau oll yn unig, bydd ein staff yn sicrhau y bydd bwyd a gwasanaeth o’r radd flaenaf o’r cais cyntaf oll i’r tamaid olaf. Bydd ein tîm ymroddedig hefyd yn teilwra opsiynau ciniawa I bob deiet, cyllideb a digwyddiad.
Sylwer bod angen rhybudd o 5-7 niwrnod arnom ar gyfer pob archeb.
Edrychwn ymlaen at gynnig ein hopsiynau lletygarwch i gwsmeriaid allanol yn y misoedd i ddod. Dilynwch @SwanseaUniFood ar Instagram a Twitter am yr wybodaeth ddiweddaraf.
Sylwer bod rhaid cyflwyno pob cais drwy'r system archebu Blue Runner a sicrhewch eich bod yn glynu wrth ein hamserau arwain i archebu.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’n tîm arlwyo drwy e-bostio kim.dowle@compassgroup.co.uk neu ffoniwch 01792 987250.