
Cyfnod newydd i Chwaraeon Prifysgol Abertawe
Rydyn ni'n gyffrous i rannu lansiad hunaniaeth newydd Chwaraeon Prifysgol Abertawe - logo sydd wedi'i greu gan ein cymuned, ar gyfer ein cymuned.
Yn dilyn proses ymchwil ac ymgysylltu gynhwysfawr a oedd yn cynnwys dros 1,300 o staff, myfyrwyr a phartneriaid, rydyn ni'n falch o rannu logo chwaraeon ar ei newydd wedd, sy'n adlewyrchu pwy ydym ni: yn falch, yn unedig, yn gystadleuol ac wedi ein gwreiddio mewn traddodiad.
Pam newid?
Gofynnodd ein cymuned am logo a oedd yn feiddgar, yn fodern ac a oedd yn cyd-fynd yn well ag arwyddlun Prifysgol Abertawe. Y canlyniad yw hunaniaeth ar ei newydd wedd sy'n gwella adnabyddiaeth, yn anrhydeddu ein traddodiad ac yn cynrychioli pob myfyriwr, waeth beth fo’i gamp.
Beth sy'n newydd?
- Siâp yr arwyddlun - mae'n cyd-fynd â hunaniaeth greiddiol y Brifysgol
- Dyluniad y don - mae'n cynrychioli egni, dynamiaeth a'n lleoliad arfordirol
- Tonau gwyrdd deuol - mae'n adlewyrchu ein treftadaeth
- '1920' - mae'n anrhydeddu'r flwyddyn y sefydlwyd y Brifysgol
Y logo newydd hwn oedd yr un mwyaf poblogaidd wrth ei brofi am y tro olaf, oherwydd bod ganddo'r cydbwysedd cywir rhwng bri, cynhwysiant a modernedd.
Byddwch yn Rhan Ohoni
Mae ein harwyddair newydd, Byddwch yn Rhan Ohoni, yn wahoddiad i bob aelod o'n cymuned, p'un a ydych chi'n ymgymryd â hobi newydd, yn ymuno ag un o'n 60 o glybiau chwaraeon, neu'n cystadlu fel ysgolor yn rhan o'n rhaglen yrfa ddeuol. Mae Chwaraeon Prifysgol Abertawe i bawb.
Mae hwn yn fwy na logo - mae'n symbol o'n taith a rennir. O Wythnos y Glas i fuddugoliaeth Varsity, rydyn ni'n edrych ymlaen i weld y logo'n cael ei wisgo gyda balchder ar draws y campws a thu hwnt.
Diolch i bawb a gyfrannodd at y broses hon. Rydych chi wedi helpu i lunio rhywbeth sydd wir yn cynrychioli ein cymuned.
Gobeithiwn y Byddwch yn Rhan Ohoni wrth i ni gymryd y cam nesaf cyffrous hwn gyda'n gilydd.
I ddysgu mwy am chwaraeon yn Abertawe, cliciwch yma.