
Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf am bopeth sy'n ymwneud â chwaraeon gan Cam, eich Swyddog Chwaraeon!
Mae Cam wedi cael tymor cyntaf llawn cyffro, gan oruchwylio gweithgareddau 56 o glybiau chwaraeon Prifysgol Abertawe wrth wasanaethu fel cysylltiad hollbwysig rhwng Undeb y Myfyrwyr a Chwaraeon Abertawe. Drwy gydweithio ar amrywiaeth o fentrau, gan gynnwys gwneud paratoadau ar gyfer Varsity Cymru, y mae disgwyl mawr amdano, mae Cam yn ymroddedig i wella profiad chwaraeon y myfyrwyr ar bob lefel — ni waeth a ydych chi'n rhan o glwb adloniadol neu'n athletwr perfformiad uchel.
Eleni, mae Cam yn canolbwyntio ar sut gall chwaraeon a gweithgarwch corfforol wella eich amser yn y Brifysgol. Gydag ymroddiad i ddarparu profiad chwaraeon o'r radd flaenaf, mae ef eisoes wedi bod wrthi'n ddiwyd. Ymysg ei gyflawniadau nodedig y tymor diwethaf, mae Cam wedi cyflawni'r canlynol yn llwyddiannus:
- Cynnal digwyddiad Diwrnod Menywod i godi ymwybyddiaeth o ganser y fron.
- Cyflwyno Wythnos y Rhuban Du i gefnogi'r ymgyrch i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod.
- Trefnu digwyddiad tri phennawd i amlygu Tashwedd a'i ffocws ar iechyd dynion.
Mae'r mentrau hyn, ar y cyd â gwaith parhaus Cam, wedi creu effaith go iawn, gan godi ymwybyddiaeth o chwaraeon clybiau ar draws y Brifysgol ac ysbrydoli wmbredd o ymdrechion codi arian elusennol wedi'u harwain gan ein clybiau.
Beth sy'n dod nesaf?
Gyda thymor prysur arall o'i flaen, mae gan Cam ddigon o brosiectau cyffrous ar y gorwel.
- Varsity Cymru Yn yr ŵyl hon, a gynhelir ar 9 Ebrill, bydd Prifysgol Abertawe'n cystadlu yn erbyn Prifysgol Caerdydd mewn cystadleuaeth anferth ar gyfer Tarian Varsity. Mae Cam yn gweithio'n agos gydag Undeb Athletau Prifysgol Caerdydd i sicrhau y bydd digwyddiad eleni yng Nghaerdydd yn un bythgofiadwy.
- Ymgyrchoedd a digwyddiadau elusennol: Mae Cam yn bwriadu parhau i fynd i'r afael â phroblemau pwysig ym mywyd y myfyrwyr drwy ymgyrchoedd creadigol sy'n llawn effaith.
- Cymorth a Chyllid Clybiau: Sicrhau bod gan yr holl glybiau yr adnoddau y mae eu hangen arnynt i ddarparu profiadau chwaraeon eithriadol ym mhob agwedd.
Mae ymroddiad Cam i ddatblygu chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe wedi bod yn llawn ysbrydoliaeth, ac rydym yn edrych ymlaen at weld beth bydd e'n ei gyflawni yn y misoedd sydd i ddod.
Rhagor o wybodaeth am Varsity Cymru yma.
Rhagor o wybodaeth am rôl y Swyddog Chwaraeon yma.