
Bydd Caerdydd yn cynnal gŵyl chwaraeon prifysgolion fwyaf Cymru.
Wrth i ni ddechrau cyfrif y diwrnodau nes Varsity Cymru 2025, mae'r cyffro'n cynyddu ar gyfer un o'r digwyddiadau mwyaf yng nghalendr chwaraeon y DU. Eleni, Prifysgol Caerdydd bydd yn cynnal yr ŵyl, gyda diwrnod bythgofiadwy yn llawn cystadlu brwd a dathliadau chwaraeon.
Dechreuodd Varsity Cymru fel cystadleuaeth rygbi rhwng Prifysgolion Abertawe a Chaerdydd, ond ers hynny mae wedi datblygu i fod yn ddigwyddiad aml-gamp. Bydd timau o'r ddwy brifysgol yn cystadlu'n erbyn ei gilydd mewn amrywiaeth o chwaraeon er mwyn ennill tarian chwenychedig Varsity Cymru, gan barhau â thraddodiad balch o gystadleuaeth a chyfeillgarwch hwylus.
Cynhelir y digwyddiad ar 9 Ebrill mewn amrywiaeth o leoliadau ar draws canol dinas Caerdydd, gan gynnwys Gerddi Sophia, Chwaraeon Cymru a Pharc eiconig yr Arfau ar gyfer gêm olaf y dydd - gêm rygbi'r dynion rhwng Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd! Mae'r diwrnod yn cynnig cyfle arbennig i fyfyrwyr, staff, cyn-fyfyrwyr a chefnogwyr i uno a chefnogi eu tîm, tra hefyd yn mwynhau'r awyrgylch. P'un a ydych chi wedi profi a mwynhau Varsity Cymru yn y gorffennol neu'n ei brofi am y tro cyntaf, mae'r digwyddiad hwn yn atgof allweddol yn nhaith prifysgol myfyrwyr.
Mae maint Varsity Cymru yn gofyn am gydweithrediad gan bawb, gan ddod ag Undeb y Myfyrwyr, Chwaraeon Abertawe, a staff ymroddedig ynghyd i sicrhau bod y diwrnod yn llwyddiannus! O gemau cystadleuol i ddathliadau cymdeithasol drwy gydol y dydd, mae Varsity Cymru’n dyst i’r ymdeimlad cryf o gymuned rhwng y ddwy brifysgol.
Bydd y Fyddin Werdd a Gwyn, sef ein cefnogwyr chwaraeon, allan yn cefnogi ein timau yn eu dillad gwyrdd a gwyn yn ystod y diwrnod y gobeithiwn y bydd yn llwyddiant.
Mynegodd Cameron Messetter, Swyddog Chwaraeon Prifysgol Abertawe, ei gyffro am y digwyddiad:
“Gyda dechrau’r flwyddyn newydd daw cyfleoedd ffres, ac mae Varsity Cymru dim ond 11 wythnos i ffwrdd! Mae ein tîm wedi bod yn gweithio’n galed, yn creu deunydd hyrwyddo ac yn mynd i’r afael â logisteg y digwyddiad aruthrol hwn. Mae’r tîm yn Undeb y Myfyrwyr wedi bod yn anhygoel, yn paratoi ar gyfer y Parti Lansio mawr ar Ionawr 27ain. Gyda phum lleoliad anhygoel ar Heol y Gwynt, rydym yn barod i gynnal croeso gwych yn ôl i’n myfyrwyr. Alla i ddim aros i weld Parc yr Arfau Caerdydd yn gwerthu allan ac yn llawn dop o’r Fyddin Werdd a Gwyn.
Y tu ôl i’r llenni, mae’r gwaith eisoes yn mynd rhagddo’n dda i sicrhau bod pob manylyn yn ei le ar gyfer diwrnod bythgofiadwy. I’r holl gyfranwyr a threfnwyr, mae eich ymdrechion yn golygu’r byd i ni – mae hwn yn ddiwrnod sy’n gadael argraff barhaol ar y chwaraewyr a’r gwylwyr fel ei gilydd. Nid yw’n syndod bod Varsity Cymru yn uchafbwynt chwaraeon myfyrwyr. Edrychaf ymlaen at eich gweld chi i gyd yng Nghaerdydd ac yn dathlu yn yr ôl-barti yn Abertawe. I Fyny’r Elyrch!!”
Edrychwch ar holl weithgarwch Varsity Cymru 2024 yma.
Ydych chi'n barod i ymuno â'r hwyl? Prynwch eich tocynnau ar gyfer Varsity Cymru a gynhelir eleni ar 9 Ebrill 2025 yma.
Gadewch i ni wneud Varsity eleni'n un i'w gofio - gwelwn ni chi yng Nghaerdydd!