Delwedd o bedwar myfyriwr sy'n cystadlu

Daw pob cystadleuaeth â heriau a chyfleoedd unigryw, ac ychydig iawn ohonynt sydd mor ddwys â'r Gystadleuaeth Negodi Ryngwladol

Digwyddiad blynyddol sy’n dod â myfyrwyr o bob cwr o’r byd ynghyd, llawer ohonynt wedi ennill Cystadlaethau Negodi Cenedlaethol eu gwledydd eu hunain, i gystadlu yn erbyn ei gilydd ac i negodi gyda’i gilydd. Ar wahân i'r senarios masnachol cymhleth ac astrus a oedd yn gofyn i dimau gydbwyso gwahanol strategaethau a thactegau i greu fformiwla argyhoeddiadol, roedd digon o faglau moesegol, gwahaniaethau diwylliannol i’w deall a’u hystyried, ac, yn ystod mis Gorffennaf eleni, gwres llethol yn Llundain lle cynhaliwyd y gystadleuaeth. Ac wedyn nôl â ni at y senarios!

“Fe wnaeth y gystadleuaeth ddangos i mi natur fyd-eang ymarfer cyfreithiol a pha mor werthfawr yw cysylltu â phobl o gefndiroedd cyfreithiol a diwylliannol gwahanol. Gwnaeth y perthnasoedd a’r wybodaeth a gefais drwy’r gystadleuaeth ehangu fy nealltwriaeth o beth mae gweithio ym maes y gyfraith yn ei olygu heddiw.” (Maggie Jessop – myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe yn cynrychioli Cymru yn y Gystadleuaeth Negodi Ryngwladol) 

Mae Cymru’n anfon tîm i’r gystadleuaeth bob blwyddyn, a’r tro hwn Prifysgol Abertawe enillodd Gystadleuaeth Genedlaethol Lloegr a Chymru ar y cyd, a gynhaliwyd ac a drefnwyd gan y Ganolfan ar gyfer Datrys Anghydfodau’n Effeithiol. Llwyddodd Maggie Jessop, myfyriwr yn ei thrydedd flwyddyn, a Samuel Berkeley, myfyriwr ar y Cwrs Ymarfer y Gyfraith (LPC), i ennill yn erbyn tua 55 o dimau a oedd wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth. O ganlyniad, cawsant eu dewis i gynrychioli Cymru ac ar ôl i Gynrychiolydd Cenedlaethol Cymru gael caniatâd i anfon ail dîm ar ran y wlad, cafodd Abertawe gyfle i anfon ail dîm o ddau fyfyriwr, sef Melissa James ac Emily Law, y ddwy yn eu hail flwyddyn, a oedd hefyd wedi cyrraedd y rowndiau cenedlaethol ac wedi perfformio’n eithriadol o dda. Daeth yn amlwg yn fuan mai Melissa ac Emily oedd y cystadleuwyr ieuengaf yn y gystadleuaeth ryngwladol eleni, ac roedd hynny'n ychwanegu at eu cymhelliant.

Bu'r digwyddiad yn para am wythnos ac yn cynnwys dosbarthiadau meistr a drefnwyd gan CEDR, ynghyd â chyfraniadau gan, ymhlith eraill, Syr Julian Smith, cyn-negodwr mewn achosion o wystlon, Phillip Williams, a siaradodd am rym gwrando a holi, yr hyfforddwr Felicity Steadman, a drafododd negodi ym myd diwydiant yn Ne Affrica, a’r Athro Nancy Soonpaa o Brifysgol Dechnegol Texas, a siaradodd am rym… grym.

Roedd y digwyddiad yn cynnwys pedair rownd o gystadlu, gyda Sam a Maggie yn negodi yn erbyn timau o Frasil, Singapore, Iwerddon, Canada ac Indonesia, tra bu Melissa ac Emily yn negodi yn erbyn timau o India, Brasil, Gogledd Iwerddon, Awstralia a'r Eidal. Derbyniodd y pedwar myfyriwr adborth ardderchog gan feirniaid o bob cwr o’r byd a gwnaethant gynrychioli Ysgol y Gyfraith a’r Rhaglen Sgiliau Cyfathrebu yn rhagorol.

Meddai Emily: “Roedd cystadlu yn y Gystadleuaeth Negodi Ryngwladol yn fraint enfawr ac yn gyfle rwy'n hynod ddiolchgar amdano. O safbwynt myfyriwr israddedig, roedd yn eithaf prin cael y cyfle i gystadlu yn erbyn cynifer o raddedigion o safon mor uchel mewn amgylchedd diogel a hael. Rwy'n annog holl fyfyrwyr y gyfraith i gymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau os ydyn nhw am fagu hyder neu ymarfer eu sgiliau cyfreithiol mewn amgylchedd addysgol. Diolch i’r brifysgol am gefnogi’r adran sgiliau a gwneud y daith hon yn bosibl.”

Diolch o galon i Acuity Law am eu cefnogaeth i’r tîm yn y gystadleuaeth hon, ac yn enwedig i Emily John, cyn-fyfyriwr o Brifysgol Abertawe, sydd wedi bod yn brif gyswllt i ni yn Acuity Law.

Os ydych chi'n fyfyriwr presennol neu'n ddarpar fyfyriwr a hoffech chi ddysgu rhagor am Raglen Sgiliau Cyfathrebu Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe, e-bostiwch Matthew Parry.

Rhannu'r stori