
Cystadleuaeth Negodiadau Rithwir Mediate Guru: Abertawe'n cyrraedd y brig!
Wrth wraidd Rhaglen Sgiliau Cyfathrebu Ysgol y Gyfraith Abertawe mae'r pum sgìl: eiriolaeth mewn treial, eiriolaeth mewn apeliadau, cyfweld â chleientiaid, trafodaethau a chyfryngu. Rhwng 19 a 22 Mehefin 2025, canolbwyntiodd tri thîm o Abertawe ar drafodaethau yng Nghystadleuaeth Negodiadau Rithwir Mediate Guru, cystadleuaeth o bell sy'n denu timau o bob cwr o'r byd, ac yn benodol Asia, i gystadleuaeth heriol.
Rhoddwyd gwybodaeth ymlaen llaw i'r myfyrwyr ac roedd yn rhaid iddynt gynrychioli eu cleientiaid, yn gyntaf mewn rowndiau rhagbrofol yn cystadlu yn erbyn 24 o dimau rhyngwladol ac yna, ar gyfer yr wyth sgoriwr uchaf, rowndiau bwrw allan i benderfynu ar enillydd cyffredinol. Tri thîm Abertawe oedd Lewis Green ac Amelia Smith (ail flwyddyn), Matthew Vandesande a Luca Affuso-Price (trydedd flwyddyn) a Honee Crocker ac Ellie Leach (ail flwyddyn). Gwnaethon nhw i gyd ymroi i'r broses, gan ddechrau wrth gyflwyno cynlluniau ysgrifenedig ar gyfer y ddwy ochr yn y Rowndiau Rhagbrofol.
Roedd y camau llafar yn ddwys, ac enillodd y tri thîm lawer iawn o brofiad ac adborth gan y paneli o feirniaid ac ar ôl y Rowndiau Rhagbrofol, aeth dau dîm o Abertawe ymlaen i'r rowndiau terfynol - Lewis ac Amelia, a Matthew a Luca. Roedd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn ôl amser India, felly roedd angen larwm cynnar iawn ar gyfer dechrau am 6am ddydd Sadwrn - nid yw popeth am gystadlaethau yn fêl i gyd!
Collodd Matthew a Luca yn y rownd go-gynderfynol ond dysgon nhw lawer o'r broses, tra wnaeth Lewis ac Amelia barhau â'u cynnydd a chyrraedd y rownd gynderfynol ac, yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, y Rownd Derfynol. Digwyddodd hyn ddydd Sul yn erbyn tîm o Brifysgol Genedlaethol y Gyfraith Dr Ram Manohar Lohia (RMNLNU), Lucknow. Er mawr lawenydd i Lewis ac Amelia, fe’u cyhoeddwyd fel y tîm buddugol gan banel o feirniaid gan gynnwys Chakrapani Misa (Khaitan & Co), Shravan Yammanur (Dentons Link Legal) a Karan Kanwal (Dirprwy Gofrestrydd Canolfan Cyflafareddu Rhyngwladol India). Roedd hwn yn berfformiad gwych gan Lewis ac Amelia ac roedden nhw ill dau wrth eu boddau o allu arddangos y sgiliau maen nhw wedi'u dysgu yn Ysgol y Gyfraith Abertawe.
I fyfyrwyr presennol neu ddarpar fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am Raglen Sgiliau Cyfathrebu Ysgol y Gyfraith Abertawe, cysylltwch â Matthew Parry