
Myfyrwyr Abertawe yn Bencampwyr Negodi Cymru a Lloegr
Bob blwyddyn gall myfyrwyr o Ysgol y Gyfraith Abertawe roi cynnig ar gymryd rhan mewn 30 o gystadlaethau gwahanol, yn y Brifysgol ac yn allanol. Un o'r prif gystadlaethau rydyn ni'n anfon timau ati yw Cystadleuaeth Negodi Cymru a Lloegr, a drefnir gan y Ganolfan Datrys Anghydfodau'n Effeithiol (CEDR). Eleni, am y tro cyntaf, enillodd tîm o Abertawe y gystadleuaeth gyffredinol, gan ennill yr hawl i fynd ymlaen i gynrychioli Cymru yn y Gystadleuaeth Negodi Ryngwladol, a gynhelir yn Llundain ym mis Gorffennaf 2025.
Gall pob ysgol y gyfraith anfon dau dîm i'r gystadleuaeth, ac eleni y timau oedd Samuel Berkely (LLM Ymarfer Cyfreithiol Proffesiynol) mewn partneriaeth â Maggie Jessop (3edd flwyddyn), ac Emily Law a'i phartner Melissa James (y ddwy ohonynt yn eu 2il flwyddyn). Y cam cyntaf oedd y gystadleuaeth ranbarthol ar-lein, lle roedd 18 o dimau eraill yn cystadlu o bob cwr o Gymru a Lloegr. Roedd yn rhaid i'r myfyrwyr drafod senarios cymhleth gan gynnwys gwasanaethau cyrchfannau sgïo lle roedd y perthnasoedd yn fwy rhewllyd na'r llethrau, a thrafod contract talent lle roedd gwybodaeth anhysbys ym mhob man. Gweithiodd y myfyrwyr yn galed i baratoi a chawsant eu gwobrwyo wrth i'r ddau dîm gymhwyso ar gyfer y Gystadleuaeth Genedlaethol - y tro cyntaf i ddau dîm o Abertawe gymhwyso ar gyfer y rownd Genedlaethol o'r un rownd ranbarthol.
Arweiniodd pob ffordd i Leeds ym mis Mawrth (a diolch byth, nid oedd y ffyrdd yn brysur am y daith 5 awr!) Unwaith eto, gwnaeth y myfyrwyr baratoi'n drylwyr a chydag ymwybyddiaeth fasnachol dda, ac roeddent byth a beunydd yn tasgu syniadau ac yn herio meddyliau ei gilydd (pan nad oeddent yn herio chwaeth cerddoriaeth eu gyrrwr/hyfforddwr!) Roedd y Gystadleuaeth Genedlaethol yn cynnwys y deuddeg tîm a oedd wedi cymhwyso o'r rhagbrofion rhanbarthol, llawer ohonynt yn fyfyrwyr ôl-raddedig. Y tro hwn roedd 3 negodiad i'w llywio mewn un diwrnod, gan gynnwys negodiad 3-ffordd poenus rhwng cwmnïau AI, negodiad llynges a oedd yn cynnwys trasiedi, a mapio'r ffordd ar gyfer bargen bosibl i gwmni technoleg brynu tir mewn tref a oedd wedi gweld dyddiau gwell. Mae gwahanol natur y senarios hyn yn gofyn i'r myfyrwyr arddangos ystod o sgiliau a strategaethau negodi ac enillodd y ddau dîm lawer o'r profiad a'r adborth. Diolch yn arbennig am yr adborth rhagorol gan ddau o'r enillwyr o 2024 - Cliona Tanner-Smith a Charlie Procter. Roedd yn wych cael adborth gan enillwyr blaenorol ac roedd y sylwadau yn eithriadol o dreiddgar.
Daeth y diwrnod i ben â chinio yng Ngwesty'r Met cyn i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi. Roedd Sam a Maggie yn hynod hapus i gael eu cyhoeddi'n enillwyr cyffredinol y gystadleuaeth. Er bod Abertawe wedi bod ar y brig ymysg timau o Gymru yn y gorffennol, dyma'r tro cyntaf i ni ennill y gystadleuaeth gyffredinol ac roedd yn adlewyrchu gwaith caled ac ymrwymiad Sam a Maggie. Llongyfarchiadau mawr hefyd i Melissa ac Emily yn eu cystadleuaeth gyntaf. Daethant yn drydydd o ran y tîm israddedig gorau yng Nghymru a Lloegr a gwnaethant ddangos sgiliau rhagorol (gan gynnwys 'blydi bendigedig' prin gan eu hyfforddwr ar ôl un rownd). Maent yn edrych ymlaen at ddatblygu eu sgiliau yn eu blwyddyn olaf.
Ar ôl y gystadleuaeth, meddai Sam: "Mae'n anrhydedd mawr i mi gynrychioli Prifysgol Abertawe yng Nghystadleuaeth Negodi CEDR ac rwyf hyd yn oed yn fwy balch bod Maggie a minnau wedi ennill yn genedlaethol. Roedd y gystadleuaeth yn gyfle gwych i roi popeth a addysgodd Matthew [yr hyfforddwr] i ni ar waith mewn amgylchedd ymarferol, ac fe ddaeth â'r gwersi hynny’n fyw. Rwyf bellach yn llawn cyffro i gynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth ryngwladol yn ddiweddarach eleni! Diolch yn fawr iawn i'r Brifysgol am gefnogi ac ariannu'r daith yn ogystal â chefnogaeth Matthew a'r gwaith tîm a'r cydweithrediad gan Maggie, yn ogystal â Melissa ac Emily yn nhîm arall Abertawe."
Ychwanegodd Maggie: ""Rwy'n hynod ddiolchgar i CEDR am gynnal y digwyddiad hwn a rhannu eu hamser a'u harbenigedd yn hael. Mae'r sgiliau rydw i wedi'u hennill drwy gydol y gystadleuaeth hon wedi bod yn amhrisiadwy a byddant yn sicr yn aros gyda mi drwy gydol fy ngyrfa a'm bywyd personol. Diolch o galon i Brifysgol Abertawe am ein cefnogi drwy'r gystadleuaeth."
Mae Sam a Maggie yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru yn y cystadlaethau rhyngwladol ym mis Gorffennaf.
Rydym hefyd yn eithriadol o ddiolchgar i Acuity Law am eu cefnogaeth i'r tîm a'r Rhaglen Sgiliau Cyfathrebu y flwyddyn academaidd hon.
I unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu rhagor am Raglen Sgiliau Cyfathrebu Ysgol y Gyfraith Abertawe, e-bostiwch Matthew Parry yn m.j.parry@abertawe.ac.uk neu ewch i'n cyfrif Instagram - swan_law_skills