
Parhaodd myfyrwyr Abertawe â'u perfformiadau gwych ym mlwyddyn academaidd 2024/25, y tro hwn yn dangos rhagolygon gwych ar gyfer y blynyddoedd i ddod wrth i Maisie Bollom a William Wilton greu argraff yn y Gystadleuaeth Ffug Lys Barn i Fyfyrwyr y Flwyddyn Gyntaf rhwng Abertawe a Chaint.
Nod y gystadleuaeth hon yw helpu egin gyfreithwyr i ddatblygu eu sgiliau ar gam cynnar yn eu gyrfa academaidd ac fe'i sefydlwyd gan Dr Matthew Parry (Abertawe) a Darren Weir (Caint) yn 2024.
Eleni bu 30 o dimau yn cystadlu yn y gystadleuaeth ac yn cymryd rhan mewn eiriolaeth ysgogol dros 3 Rownd Ragbrofol cyn i'r 8 tîm gorau gymhwyso ar gyfer Diwrnod y Rowndiau Terfynol a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf gan Francis Taylor Building Chambers yn Llundain, a fu'n noddi'r gystadleuaeth.
Roedd Maisie a William yn un o dimau Abertawe, a gwnaethon nhw ennill y ddwy ddadl yn y Rhagbrofion gan gymhwyso ar gyfer Diwrnod y Rowndiau Terfynol. Gwnaethant berfformio'n eithriadol o dda a cholli o drwch blewyn yn y rownd gogynderfynol yn erbyn Prifysgol Northumbria. Ond nid dyma oedd diwedd y dydd. Gwnaethant elwa o Ddosbarth Meistr Eiriolaeth gan Richard Honey CB ac yna gwylio'r Rownd Derfynol, gan ennill profiad sylweddol yn ystod y dydd.
Gan fyfyrio ar y profiad, meddai William: "Roedd profi ein sgiliau yn ysgrifenedig ac ar lafar yn brofiad gwych ac yn gyfle i gysylltu â myfyrwyr eraill a bargyfreithwyr "
Diolch i Angel Chambers a gefnogodd ein tîm yn garedig yn y gystadleuaeth hon, yn ogystal â'r Rhaglen Sgiliau Cyfathrebu yn fwy cyffredinol.
Os ydych chi'n fyfyriwr presennol neu'n ddarpar fyfyriwr a hoffech chi ddysgu rhagor am Raglen Sgiliau Cyfathrebu Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe, e-bostiwch Matthew Parry.