
Ddydd Mercher 2 Ebrill 2025, cafwyd diweddglo dramatig i Gystadleuaeth Ffug Lys Barn Fewnol i fyfyrwyr hŷn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe (i fyfyrwyr yn yr 2il, y 3edd neu'r 4edd flwyddyn) wrth i'r pedwar myfyriwr olaf gystadlu. Daeth y ddrama o leoliad y rownd derfynol, yn Llys 1 y Goruchaf Lys a'r beirniad, yr Arglwydd Lloyd-Jones.
Ddydd Mercher 2 Ebrill 2025, cafwyd diweddglo dramatig i Gystadleuaeth Ffug Lys Barn Fewnol i fyfyrwyr hŷn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe (i fyfyrwyr yn yr 2il, y 3edd neu'r 4edd flwyddyn) wrth i'r pedwar myfyriwr olaf gystadlu. Daeth y ddrama o leoliad y rownd derfynol, yn Llys 1 y Goruchaf Lys a'r beirniad, yr Arglwydd Lloyd-Jones.
Bob blwyddyn mae'r Goruchaf Lys yn cynnig y cyfle hael hwn i 12 o ysgolion y gyfraith ac eleni, roedd Abertawe yn un o ysgolion y gyfraith a ddewiswyd i gynnal rownd derfynol ein dadl ffug lys barn yn y lleoliad mawreddog hwn.
Roedd y pedwar cystadleuydd, Maren Julian, Tegan Bennett, Amelia Triaca (i gyd yn fyfyrwyr y 3edd flwyddyn) a Cara di Teodoro (2il flwyddyn) wedi ennill eu lle yn y digwyddiad hwn drwy sgorio'n uchel mewn pedair rownd ragarweiniol i gymhwyso am y rowndiau cynderfynol cyn brwydro drwy rownd gynderfynol ddwys a feirniadwyd gan aelodau o Angel Chambers, cefnogwyr y Ffug Lys Barn i Fyfyrwyr Hŷn a'r Rhaglen Sgiliau Cyfathrebu.
Ar ôl taith ddiddorol iawn o'r llys a'r cyfle i gwrdd â'r Arglwydd Lloyd-Jones, aeth y pedwar cystadleuydd ati i ddadlau pwynt Hawliau Dynol a oedd yn ymwneud â chorff cyhoeddus/preifat hybrid. Roedd gan bob un ohonynt 15 munud i gyflwyno eu dadleuon a bu'n rhaid iddynt feddwl yn ofalus am eu hatebion yn sgîl nifer o ymyriadau barnwrol gan yr Arglwydd Lloyd-Jones.
Roedd y safon yn eithriadol ac ymdopodd pob un o'r pedwar myfyriwr yn rhagorol â'r her. Ar ôl dadl agos iawn, cyhoeddwyd mai Amelia Triaca o'r drydedd flwyddyn oedd yr enillydd, gan ragori ar ei pherfformiad yn 2023/24 pan orffennodd hi yn yr ail safle. Gwnaeth yr holl ddadleuwyr, a'r myfyrwyr o Abertawe a oedd wedi teithio i wylio'r digwyddiad, ddiolch i'r Arglwydd Lloyd-Jones a'r holl drefnwyr yn y llys am eu gwaith ardderchog yn cydlynu’r digwyddiad. Diolch yn fawr iawn i bawb yn y Goruchaf Lys.
Os hoffech chi ddysgu mwy am Raglen Sgiliau Cyfathrebu Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe, e-bostiwch Matthew Parry (m.j.parry@abertawe.ac.uk) neu ewch i'n tudalen Instragram swan_law_skills