Yn ystod blwyddyn academaidd 2019-2020, lansiodd y cwmni cyfreithiol byd-eang, Kennedy wobr newydd ar gyfer myfyrwyr LLM Prifysgol Abertawe; ‘Gwobr Kennedys mewn Cyfraith Yswiriant Morwrol’, i gydnabod a dathlu llwyddiant ein perfformwyr gorau yn y modiwl Cyfraith Yswiriant Morwrol. Mae practis yswiriant morwrol byd-eang Kennedys yn gweithredu ar gyfer cynghreiriau Lloyds, ac yswirwyr ac ailyswirwyr morwrol ledled Ewrop, y Dwyrain Canol, Asia y Pasiffig, America a Bermiwda.
Rhoddwyd y wobr Kennedy flynyddol i Mr Filippos Alexandrakis gan Mr Michael Biltoo, partner y cwmni ac yn un o raddedigion Abertawe. Yn siarad yn y seremoni wobrwyo a gynhaliwyd drwy Zoom, estynnwyd llongyfarchiadau gan Mr Biltoo i Filippos gan ddweud bod ei gwmni wrth ei fodd yn darparu’r cymhelliant a’r wobr i gyfreithiwr addawol y dyfodol. Mynegodd ei awydd i ddatblygu corfforaeth Kennedy gydag Ysgol y Gyfraith Abertawe ymhellach yn y dyfodol.
Graddiodd Filippos o Ysgol y Gyfraith Athens a disgwylir iddo gwblhau ei LLM mewn Cyfraith Forwrol Ryngwladol gyda rhagoriaeth.