Yn Abertawe, ein nod yw helpu ein myfyrwyr LLM i ddatblygu eu sgiliau ymchwil cyfreithiol a meddwl beirniadol, ond hefyd i adeiladu hyder wrth siarad yn gyhoeddus. I'r perwyl hwn, rydym yn cynnig modiwl heb gredyd, Dadlau Masnachol a Morwrol, sy'n opsiynol ond mae llawer o'n myfyrwyr yn ei astudio.
Eleni, er gwaethaf yr anawsterau o ganlyniad i'r pandemig byd-eang, cynhaliwyd y modiwl hwn gyda hyfforddiant ar-lein ac yn bersonol. Yn dilyn cystadleuaeth fewnol ddwys, gwnaeth chwech o'n myfyrwyr gyrraedd y rownd derfynol gan fwynhau'r fraint o ddadlau eu hachosion ar fater aml-ddull cymhleth gerbron panel a oedd yn cynnwys cyfreithwyr masnachol nodedig; Simon Croall CF (Pennaeth Quadrant Chambers) a Mr Paul Dean (Pennaeth Byd-eang Morgludiant, HFW).
Yn dilyn rownd derfynol ddiddorol, roedd yr ymatebwyr, Mr Feidi Zeng a Ms Nicole Dele-Alufe, ynghyd â'u hymchwilydd, Berk Bayraktar, wedi sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Mr Haofeng Jin, Ms Angela Nicholas a'u hymchwilydd, Ms Oluwadamilola Adeleke.
Yn siarad ar ôl y rownd derfynol, dywedodd Dr Kurtz-Shefford, Cyfarwyddwr y Dadlau Masnachol a Morwrol:
“Rydym yn hynod ddiolchgar am yr amser y mae Mr Croall a Mr Dean wedi’i roi i'r digwyddiad hwn, roedd eu harbenigedd a'u hystyriaeth i'r myfyrwyr yn wobrwyol iawn ac yn brofiad dysgu gwerthfawr, felly mae diolchiadau arbennig iddyn nhw (ac wrth gwrs, i HFW a Quadrant Chambers).
Rydym yn falch iawn o berfformiadau ein myfyrwyr, fel y dylent hwythau fod hefyd. Nid yw'r oriau o astudio wrth reoli cwrs amser llawn yn ystod pandemig yn hawdd ond gwnaethant ymdrech go iawn ar gyfer yr achlysur.
Yn olaf, rhaid dweud bod trefnu'r digwyddiad yn ymdrech tîm, gyda'r Athrawon Baughen a Tettenborn, a Dr Leloudas yn benodol, yn haeddu gwerthfawrogiad am eu hymdrechion.”
Hoffem estyn ein llongyfarchiadau diffuant i'r enillwyr, gwnaeth eu hymroddiad, eu dadleuon cyfreithiol creadigol a'u gwaith tîm gwych greu argraff arnom i gyd.