Rhoddodd Dr Youri van Logchem, aelod o’r Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Ryngwladol (IISTL), dystiolaeth fel tyst arbenigol ar gyfer Pwyllgor Cysylltiadau Rhyngwladol ac Amddiffyn ymchwiliad Tŷ’r Arglwyddi i Gonfensiwn Cyfraith y Môr 1982.
Y prif gwestiwn y mae’r ymchwiliad hwn yn ei drafod yw, bron 40 mlynedd ar ôl iddo gael ei gytuno, a yw’r Confensiwn hwn yn parhau i fod yn addas at y diben. Trefnwyd y sesiwn ar y thema ‘diogelwch economaidd ar y môr’.
Yn ystod y sesiwn, a gadeiriwyd gan y Farwnes Anelay o St Johns, gydag aelodau eraill o Bwyllgor Cysylltiadau Rhyngwladol ac Amddiffyn Tŷ’r Arglwyddi, trafodwyd ystod eang o faterion a oedd yn ymwneud â diogelwch economaidd ar y môr gan ddau dyst arbenigol; Dr Richard Caddell (Prifysgol Caerdydd) a Dr Youri van Logchem (Prifysgol Abertawe)
Gofynnwyd i Dr Van Logchem siarad am faterion o ran ardaloedd morwrol sy’n destun anghydfod (gyda phwyslais ar y sefyllfa pan fydd adnoddau ynni’n bresennol mewn ardaloedd o’r fath). O ran y mater hwn, gallai Dr Van Logchem gyfeirio at ei lyfr sydd wedi’i gyhoeddi’n ddiweddar (The Rights and Obligations of States in Disputed Maritime Areas, Cambridge University Press, 2021).
Bu’n siarad hefyd am geblau tanfor, y pwysau y mae newid yn yr hinsawdd yn eu rhoi ar y moroedd a’r cefnforoedd, bioamrywiaeth forol, ffyrdd newydd ac sy’n dod i’r amlwg o ddefnyddio’r moroedd a’r cefnforoedd. Yn y cyd-destun olaf hwn, amlygodd Dr Van Logchem ddau fater: yn gyntaf llen iâ’r Arctig yn toddi a’r cyfleoedd a’r risgiau y byddai cynnydd mewn gweithgareddau morgludo yn eu cyflwyno i’r rhanbarth; ac yn ail, yr heriau sy’n gysylltiedig â defnyddio cerbydau morwrol awtonomaidd at ddibenion morgludiant.